Ewch i’r prif gynnwys

Dirywiad yn amrywiaeth genetig rhinoserosiaid

8 Chwefror 2017

Mother and baby black rhinos

Mae angen mabwysiadu strategaeth gadwraeth newydd os ydym am achub y rhinoseros du rhag diflannu, yn ôl astudiaeth sy'n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd.

Am y tro cyntaf, cymharodd tîm rhyngwladol o ymchwilwyr enynnau'r holl boblogaethau rhinoseros du sy'n byw ac sydd wedi diflannu, a chanfod gostyngiad enfawr o ran amrywiaeth genetig, gyda 44 o linachau genetig o blith 64 bellach wedi diflannu. Mae'r data newydd yn awgrymu mai tywyll yw'r rhagolwg ar gyfer y rhinoseros du oni bai bod gwarchod poblogaethau â genynnau gwahanol yn cael ei flaenoriaethu.

'Hela a cholli cynefinoedd'

Dywedodd yr Athro Mike Bruford, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Mae ein canfyddiadau'n dangos bod hela a cholli cynefinoedd dros y 200 mlynedd ddiwethaf wedi arwain at leihad sylweddol yng ngallu'r rhinoseros du i esblygu. Mae maint y golled hon o ran amrywiaeth genetig yn syndod mawr i ni – doedden ni ddim yn disgwyl y byddai mor fawr.

"Mae'n bosibl y gallai'r dirywiad yn amrywiaeth genetig y rhywogaeth beryglu ei gallu i addasu yn y dyfodol wrth i'r hinsawdd a thirwedd Affrica newid oherwydd y pwysau cynyddol gan ddynol ryw...”

"Bydd y data genetig yr ydym wedi'i gasglu yn ein galluogi i nodi poblogaethau sy'n flaenoriaeth ar gyfer mesurau cadwraeth, er mwyn cynyddu'r posibilrwydd y byddwn yn gallu sicrhau nad yw'r rhywogaeth yn diflannu'n gyfan gwbl."

Defnyddiodd y tîm o ymchwilwyr DNA a gasglwyd o gyfuniad o samplau meinwe a charthion, a chroen o samplau mewn amgueddfeydd. Gosododd y tîm DNA o genom mitocondriaidd mamol mewn trefn, a defnyddio dull clasurol o broffilio DNA i fesur amrywiaeth genetig ym mhoblogaethau'r gorffennol a'r presennol. Aethant ati i gymharu proffiliau a threfn DNA anifeiliaid yng ngwahanol ranbarthau yn Affrica.

Eu cam nesaf yw gosod genom y rhinoseros du mewn trefn i weld sut mae colli amrywiaeth genetig yn debygol o effeithio ar boblogaethau ar draws ei holl enynnau. Mae hon yn wybodaeth hynod bwysig o ystyried y broblem potsian ddifrifol ar hyn o bryd, a'r ffaith bod rhai poblogaethau'n cael eu targedu mwy nag eraill.

'Wedi'i diflannu o ganlyniad i hela'

Mae'r rhinoseros du eisoes wedi diflannu mewn llawer o rannau o Affrica o ganlyniad i hela, ac mae bellach yn goroesi mewn dim ond pum gwlad: De Affrica, Namibia, Kenya, Zimbabwe a Tanzania. Mae rhagor o botsian wedi bygwth adferiad y rhywogaeth, oherwydd mae gwerth cyrn rhinoserosiaid wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, ac yn dal i gynyddu'n raddol.

Mae'r gwaith ymchwil, 'Extinctions, genetic erosion and conservation options for the black rhinoceros' wedi'i gyhoeddi yn Scientific Reports.

Ariannwyd y Prosiect gan y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Rhinoserosiaid.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael cipolwg unigryw i farn a safbwyntiau gan ymchwilwyr a chymdeithion Mannau Cynaliadwy yn y maes creu lleoedd cynaliadwy.