Ewch i’r prif gynnwys

Gwell mynediad at DNA o rywogaethau mewn perygl

22 Mai 2018

DNA

Bydd gwyddonwyr o’r DU yn cael gwell mynediad at DNA o rywogaethau o dan fygythiad, diolch i ddatblygiad banc bio sŵolegol cenedlaethol cynta’r DU.

Mae Banc Bio CryoArks, dan arweiniad yr Athro Mike Bruford o Brifysgol Caerdydd, yn fuddsoddiad mawr tuag at gadw deunyddiau genetig yn gryogenig ar gyfer cadwraeth ac ymchwil.

Bydd banc bio cenedlaethol cynta’r DU yn darparu canolfan ganolog ar gyfer ymchwilwyr ar draws y DU, a fydd yn rhoi iddynt fynediad at feinweoedd, celloedd a DNA o rywogaethau mewn perygl a bywyd gwyllt arall y gellir eu defnyddio yn eu hymchwil i gynllunio cadwraeth.

Dywedodd Yr Athro Mike Bruford: "Bydd CryoArks yn ehangu ac yn cysylltu casgliadau o samplau cadwedig ar draws y DU.

"Bydd casgliadau o feinweoedd a DNA o labordai, sŵau, acwaria ac amgueddfeydd yn dod ynghyd o dan un strwythur, gan roi cyfle digynsail inni reoli’n well a rhannu’r swm helaeth o ddeunyddiau genetig sydd gennym.

“Bydd yn galluogi ymchwilwyr a chadwraethwyr i gael mynediad at ddeunyddiau nad oeddent yn gwybod eu bod nhw’n bodoli - gan gynnwys samplau o boblogaethau gwylltion ac anifeiliaid sydd bellach yn ddiflanedig.

"Mae CryoArks yn trawsnewid sylweddol i’r ffordd y mae deunydd genetig yn cael ei guradu, ac yn sicrhau ei fod ar gael i ragor o wyddonwyr.

"O fis Gorffennaf 2018 ymlaen, bydd gennym fynediad at fwy o samplau nag erioed, a fydd yn ein helpu i ganfod ffyrdd o warchod dyfodol bywyd gwyllt ein planed.”

Mae’r grant £1 miliwn gan y BBSRC yn dod â Phrifysgol Caerdydd, yr Amgueddfa Hanes Naturiol, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, Cymdeithas Sŵolegol Frenhinol yr Alban, Sw Caeredin, Prifysgol Nottingham a Phrifysgol Caerdydd ynghyd.

“Mae Banc Bio CryoArks yn gam anferthol ymlaen mewn bio-fancio sŵolegol yn y DU.

“A’r byd yn wynebu heriau digyffelyb parthed ein bywyd gwyllt a newid hinsawdd, bydd cael mynediad at y data hyn yn ein helpu i ganfod atebion er mwyn gwarchod ein planed a’i rhywogaethau sydd mewn perygl”, ychwanegodd Mike.

Rhannu’r stori hon