Ewch i’r prif gynnwys

Yr Orsaf Ofod Ryngwladol o dan y chwyddwydr

29 Mai 2018

Image of Dr Castano wearing a spacesuit

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi treulio dwy flynedd yn rhan o’r timau sy’n gweithio ar raglen yr Orsaf Ofod Rhyngwladol (ISS) i lunio’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o’i waith.

Mae Dr Paola Castaño, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn Gymrawd Rhyngwladol Newton, a ariennir gan y Gymdeithas Frenhinol, yr Academi Brydeinig ac Academi'r Gwyddorau Meddygol. Mae wedi teithio’r byd yn ymchwilio i bob agwedd ar y labordy orbit, gan ymchwilio i’r bobl a’r prosesau y tu ôl iddo.

Mae’r ISS 254 o filltiroedd uwchben atmosffer y ddaear, lle mae gofodwyr o Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada, Japan a Rwsia yn preswylio ac yn gweithio ar gannoedd o arbrofion bioleg, ffiseg, meddygaeth, gwyddoniaeth deunyddiau, addysg a thechnoleg.

Mae Dr Castaño wedi canolbwyntio ar grŵp o arbrofion ar iechyd dynol (astudiaeth o ofodwyr sy’n efeilliaid ym maes geneteg ac astudiaethau eraill o ddatgyflyru seicolegol mewn ymateb i amodau’r gofod), bioleg planhigion (astudiaethau sy’n cymharu twf planhigion yr UDA a Rwsia), ac astudiaeth gronynnau yn y Ddaear (sbectromedr magnetig Alffa NASA a thelesgop electron calorimetrig JAXA), gan ymchwilio sut y cânt eu gweithredu a’u gwerthuso ym mhob cam o’r broses.

Yn ogystal ag archwilio i’r prosesau o wneud y profion, mae gan Dr Castaño ddiddordeb mewn sut mae gwyddoniaeth ar yr ISS yn cael ei gwerthuso. Dywedodd: “Ers iddi ddod yn gwbl weithredol yn 2010, mae’r ISS wedi galluogi cannoedd o arbrofion ar draws disgyblaethau, ond nid yw pawb yn cytuno ei bid wedi cyflawni ei uchelgeisiau gwyddonol.

“Gan mai dyma’r ymdrech ddrutaf i ddanfon bodau dynol i’r gofod, mae’n rhaid i’r ISS ymateb i fuddiannau a meini prawf gwerthuso amrywiol a chystadleuol yn aml – sy'n amrywio o’r rhai mwyaf gwleidyddol i’r rhai mwyaf technegol. Mae’r rhain yn cynnwys agweddau sy’n amrywio o ran cydweithrediad rhyngwladol, datblygiad masnachol, cefnogaeth gyhoeddus, ysbrydoliaeth addysgol, gwelliannau technolegol ac, wrth gwrs, ymchwil wyddonol.

“Yn ogystal, mae asiantaethau’r gofod yn comisiynu ymchwil annibynnol i fesur ‘perfformiad ymchwil’ yr Orsaf ac i gyfiawnhau’r defnydd o wyddoniaeth i gynulleidfaoedd amrywiol, gan gyfeirio at ‘fuddiannau go iawn’ a’i rôl o anfon bodau dynol y tu hwnt i Orbit Isel y Ddaear yn y degawdau nesaf.

“Ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn, mae cefnogwyr a gwrthwynebwyr - gyda chyfarnogiad, syniadau a chymwysterau amrywiol - yn amlygu agweddau dethol o’r portffolio eang o arbrofion i ategu eu hachos.

“Bydd fy ngwaith yn cynnig fframwaith ar gyfer deall sut mae arbrofion yn cael eu hasesu o ran llwyddiant neu fethiant gan wyddonwyr, rhanddeiliaid gwleidyddol a’r wasg.”

Ychwanegodd: “Mae’r ISS yn feicrocosm o wyddoniaeth gyfoes. Mae’n lleoliad unigryw ar gyfer dadansoddi sut mae gwyddoniaeth ar y cyfan yn cael ei werthuso gan wahanol sefydliadau cymdeithasol.”

Wrth gasglu ei hymchwil, mae Dr Castaño wedi dod yn wyneb cyfarwydd yn NASA, Sefydliad Smithsonian yn Washington, Freie Universität Berlin yn yr Almaen, a Phrifysgol Waseda yn Japan. Mae hi wedi cynnal 87 o gyfweliadau, gyda phobl sy’n cynnwys gofodwyr, gwyddonwyr, staff technegol a llunwyr polisïau.

Uchafbwynt ei phroses ymchwil oedd bod yn bresennol yn Baikonur Cosmodrome yn Kazakhstan yn y diwrnodau cyn lansio roced Soyuz MS-03 oedd yn cludo’r gofodwr Rwsiaidd Oleg Novitskiy, y gofodwr Americanaidd Peggy Whitson a’r gofodwr Ffrengig Thomas Pesquet i’r ISS.

Yn ogystal ag ysgrifennu llyfr am ei hymchwil, mae Dr Castaño yn ceisio cyflwyno canfyddiadau perthnasol o’i gwaith i Asiantaeth Ofod y DU.

Dywedodd: “Lansiodd taith ddiweddar y gofodwr cyntaf o’r DU/ESA i’r ISS, Tim Peake, gyfres ddigyffelyb o fentrau addysg gwyddonol yn y DU.

“Mae Polisi Gofod Cenedlaethol 2015 a lansiad cynllun £10m o gymhellion i ddatblygu marchnad teithiau i’r gofod masnachol yn 2017, yn cynnig cyfle unigryw i drafod rôl gwyddoniaeth yn yr ymdrechion i ehangu sector gofod y DU.”

Ychwanegodd: “O oedran ifanc iawn, ‘dwi wedi rhyfeddu at y posibiliadau a’r potensial o archwilio’r gofod. Braint o’r mwyaf oedd dod i adnabod y bobl sy’n gweithio yn yr ISS a chael dealltwriaeth ddofn ac unigryw o weithrediadau gwybodaeth wyddonol drwy’r bobl hynny.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.