Ewch i’r prif gynnwys

Dechrau astudio planedi y tu allan i Gysawd yr Haul

20 Mawrth 2018

ARIEL mission craft

Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhan o astudiaeth y cyhoeddodd Asiantaeth y Gofod Ewrop ei manylion heddiw.  Mae bwriad i drin a thrafod cwestiynau sylfaenol am sut mae planedau y tu allan i Gysawd yr Haul yn ymffurfio ac yn esblygu.

Bydd lloeren ARIEL yn gadael yn 2028 i gynnal yr arolwg cemegol cyntaf o awyrgylch planedi sydd y tu allan i Gysawd yr Haul.

Yn ystod pedair blynedd y daith, bydd yn tynnu cemegau o awyrgylch 1000 o blanedau yn ogystal â hel gwybodaeth am y tymheredd, y pwysedd a’r cymylau yno.

Bydd gwyddonwyr o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn ceisio darogan hynt taith lloeren ARIEL a’i hoffer yn fanwl trwy gyfrifiadur fel y bydd modd trefnu’r arsylwi gwyddonol yn ofalus a dadansoddi’r data sydd i ddeillio o hynny yn gywir. Bydd y tîm yn ymwneud â dehongli data a ddaw o’r arsylwi er mwyn ceisio pennu nodweddion awyrgylch pob planed, hefyd.

Meddai’r Athro Matt Griffin, pennaeth Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ac aelod o Gylch Offeryniaeth Seryddiaeth: “Mae’r penderfyniad i anfon lloeren ARIEL yn dangos delfryd ac uchelgais gwyddonol yr asiantaeth.  Dyma ddechrau antur cyffrous i bawb fydd yn ymwneud â hyn. Bydd y daith o gymorth mawr wrth geisio deall natur planedau a’n lle ni yn y bydysawd.  Rydyn ni yng Nghaerdydd yn edrych ymlaen yn arw at gymryd rhan yn y prosiect.”

Meddai Prif Ymchwilydd ARIEL, yr Athro Giovanna Tinetti, Coleg Prifysgol Llundain: “Er ein bod wedi darganfod tua 3800 o blanedau sy’n troi o gwmpas sêr eraill erbyn hyn, mae natur y planedau hynny’n anhysbys inni, ar y cyfan.  Bydd ARIEL yn astudio sampl ystadegol mawr o blanedau i roi darlun gwirioneddol gynrychioliadol o’u natur. Bydd hyn yn ein galluogi i ateb cwestiynau am sut mae cemegau planed yn cysylltu â'r amgylchedd y mae’n ymffurfio ynddo a sut mae’r seren y mae’n troi o’i chwmpas yn effeithio ar ei geni a'i esblygu."

Bydd ARIEL yn astudio amrywiaeth o blanedau mawr a llai - rhai fel Iau a Neifion a rhai sydd tua’r un faint â’n planed ni. Gall rhai planedau fod yn addas ar gyfer bywyd, er mai ar y rhai cynnes a phoeth sy’n agos i’w sêr y bydd prif sylw’r astudiaeth.

Gan fod tymheredd planed sy’n agos i’w seren yn uchel iawn, bydd moleciwlau’n codi o’r wyneb i’r awyrgylch gan roi gwybodaeth fanwl am y natur fewnol.

Bydd ar y lloeren ddrych i gasglu goleuni gweladwy ac isgoch o gyfundrefnau sêr hirbell a sbectromedr i ganfod olion cemegol o’r goleuni, yn ogystal â ffotomedr a sustem lywio i nodi a oes cymylau yn awyrgylch pob planed a galluogi’r lloeren i hedfan yn sefydlog wrth anelu at seren.

Ar ôl ei lansio o Kourou, Guiana Ffrainc, bydd ARIEL yn teithio tua 1.5 miliwn cilomedr y tu hwnt i gylchdroi ein planed o gwmpas yr haul. Cuddir y lloeren rhag yr haul fel y gall weld popeth yn eglur a nodi’r planedau hirbell yn haws.

Cyfungorff ac iddo dros 50 o sefydliadau o 11 o’r gwledydd sy’n perthyn i Asiantaeth y Gofod Ewrop luniodd daith lloeren ARIEL. 450 miliwn Ewros fydd cost y daith, er bod angen arian ychwanegol ar gyfer yr offer gwyddonol.

Meddai rheolwr Prosiect Consortiwm ARIEL, Paul Eccleston, STFC RAL Space: "Mae'n newyddion gwych bod yr asiantaeth wedi dewis ARIEL ar gyfer y daith wyddonol nesaf yn y dosbarth canolig. Mae'n dda gan y tîm gael cyfle i wireddu’r daith rydyn ni wedi bod yn ei llunio dros y ddwy flynedd diwethaf. Bydd ARIEL yn cryfhau’n fawr ein gallu i ddeall sut mae cysodau planedau’n ymffurfio ac yn esblygu, gan ein helpu i bennu cyd-destun Cysawd yr Haul a’i gymharu â’r rhai nesaf yn yr alaeth.”

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.