Caerdydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer arloesedd Whitehall
25 Ebrill 2018
![Professor Delbridge delivering presentation](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1172912/Professor-Delbridge-delivering-presentation.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae’r Tîm Arloesedd Agored wedi cael eu cyflwyno i System Arloesedd Caerdydd yn ystod ymweliad ag Ysgol Fusnes Caerdydd er mwyn deall ym mha ffyrdd y gall gwaith ymchwil gael ei ddefnyddio yn Swyddfa’r Cabinet.
Gyda chyflwyniad agoriadol gan yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter y Brifysgol, oedd yn cwmpasu dull Prifysgol Caerdydd o fynd ati i hybu arloesedd ac yn cynnwys taith dechnegol rithiol o amgylch Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol (SPARK), sydd ar y gweill, cychwynnwyd y trafodaethau.
Ymunodd Rhys Thomas, Pennaeth y System Arloesedd ac Ymgysylltu, a Sally O'Connor, Rheolwr Rhaglen SPARK, â’r Athro Delbridge, ac ymhelaethu ar y dull gweithredu system arloesedd. Cafodd y tîm glywed hefyd am y Rhwydwaith Arloesedd Cyfrifol gan y cyd-sylfaenwyr, yr Athro Tim Edwards a’r Athro Luigi De Luca.
Yn ogystal ag ystyried y cyfrifoldebau sy'n rhan o waith ymchwil bu’r Athro Edwards a’r Athro De Luca yn rhannu eu gwaith ar destun Data Mawr ac arloesedd.
![Professor De Luca delivering presentation](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/1172913/Professor-De-Luca-delivering-presentation.jpg?w=575&ar=16:9)
Amser cinio daeth y Rhag Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu, yr Athro Hywel Thomas, a'r Athro Phil Brown o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol i ymuno â’r grŵp er mwyn clywed am yr adolygiad sydd ar waith gan yr Athro Brown ar gyfer Llywodraeth Cymru ar arloesedd a sgiliau digidol.
Dilynwyd hynny gan sesiwn y prynhawn lle cafwyd cyflwyniadau gan yr Athro Rob Morgan a’r Athro Joe O'Mahoney, a Sarah Lethbridge ar Ymgynghoriaeth Reoli, a datblygu capasiti o ran arloesedd drwy Addysg Weithredol a Datblygiad Proffesiynol.
Cyflwynodd Ms Lethbridge, Cyfarwyddwr Addysg Weithredol yn Ysgol Fusnes Caerdydd, hefyd raglen Arweinyddiaeth a Gweinyddiaeth Fusnes y Brifysgol i’r tîm. Mae hon yn un o gyfres o raglenni agored sy'n ceisio cynnig safbwyntiau newydd ar amrywiaeth o faterion busnes a rheoli.
Trodd y drafodaeth at arloesedd rhanbarthol ac entrepreneuriaeth dan arweiniad yr Athro Robert Huggins o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Arweiniwyd y sesiwn olaf gan yr Athro James Lewis o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a bu’n canolbwyntio ar Y Lab, partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta, sy’n ceisio ymateb i heriau pwysig yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Edrych i’r dyfodol
Dywedodd yr Athro Rick Delbridge: “Roedd hwn yn ddiwrnod ardderchog o gyfnewid syniadau mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin...”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0012/1557696/1565705255159.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Clywsom am y meysydd gweithgarwch allweddol y mae tîm Swyddfa’r Cabinet yn gweithio arnynt, a soniodd cydweithwyr Caerdydd am rywfaint o'r gwaith gwych sy’n digwydd yn y brifysgol.”
“Gobeithiaf y bydd nifer o sgyrsiau dilynol a all arwain at ragor o gydweithio a chyfnewid syniadau.”
![VR tour of SPARK](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/1172914/VR-tour-of-SPARK.jpg?w=575&ar=16:9)
Bwriad y Tîm yw cadw mewn cysylltiad ag academyddion o Gaerdydd ynghylch ymweliadau posibl â Whitehall lle gallent gyflwyno eu hymchwil ar arloesedd i amrywiaeth ehangach o swyddogion.
Dywedodd Stuart Barclay, Uwch Ymgynghorydd Polisi ar gyfer y Tîm Arloesedd Agored: “Roedd ein taith i Ysgol Fusnes Caerdydd yn addysgiadol iawn...”
“Ymhlith pethau eraill, clywsom am ffyrdd newydd o annog arloesedd a'r rhwystrau y gall sefydliadau eu hwynebu. Daethom oddi yno’n llawn cyffro, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio posibl yn ddiweddarach.”
Nod y Tîm Arloesedd Agored, a sefydlwyd ym mis Awst 2016, yw helpu i gyflymu arloesedd ar draws Whitehall trwy ddyfnhau’r cydweithio ag academyddion.