Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth i Ddinasyddion yng nghefn gwlad Brasil

29 Mawrth 2018

Tim Edwards in Brazil
Yr Athro Tim Edwards gydag aelodau o gymuned wledig Brasil ac ymchwilwyr o sefydliad FGV Sao Paulo

Mae ysgolion gwledig yn rhanbarth Guapiruvu yn Brasil yn gobeithio elwa ar effeithiau cymdeithasol, economaidd ac addysgol Gwyddoniaeth i Ddinasyddion yn dilyn ymweliad gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.

Treuliodd y tîm, o Rwydwaith Arloesedd Cyfrifol (RIN) y Brifysgol, ddau ddiwrnod gyda chynrychiolwyr o fudiad cydweithredol lleol a gweinyddiaethau addysg a datblygu cynaliadwy Sete Barras i drafod cynlluniau i adeiladu seilwaith dechnolegol mewn cymunedau lleol i’r de o Sao Paulo.

Nod y prosiect yw annog myfyrwyr, ffermwyr ac ymchwilwyr ecolegol i gymryd rhan mewn rhaglen gydweithredol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effaith newid yn yr hinsawdd ar fioamrywiaeth a'r economi leol.

Drwy ddefnyddio arbenigedd cynyddol mewn technolegau fel dyfeisiau symudol a systemau cyfrifiadurol sy’n seiliedig ar Linux neu Arduino, bydd y prosiect hefyd yn asesu sut y gellir cefnogi cymunedau drwy roi rhyngrwyd ‘o’r gwaelod i fyny’, sy’n cael ei llywio gan y gymuned, ar waith – seilwaith rhwydwaith cyfathrebu a reolir yn uniongyrchol gan y gymuned.

Galluogi cymunedau

Yn ôl yr Athro Tim Edwards o Ysgol Busnes Caerdydd, a chyd-sylfaenydd y Rhwydwaith Arloesedd Cyfrifol: “Bydd y gwaith arfaethedig yn helpu i ymestyn cyflawniadau amgylcheddol sylweddol y gymuned leol hon...”

“Gan bwysleisio’r modd y mae’r gymuned yn symud i ddulliau ffermio cymdeithasol ac amgylcheddol gyfrifol, bydd y prosiect yn helpu plant ysgol lleol i sylweddoli’r niwed y gall dulliau ffermio dwys ei gael ar eu hamgylchedd naturiol.”

Yr Athro Tim Edwards Deon a Phennaeth yr Ysgol
Athro Dadansoddi Trefniadaeth ac Arloesi

Ychwanegodd yr Athro Omer Rana o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i gefnogi cymunedau i gasglu data am fioamrywiaeth yn eu hardal leol. Wrth wneud hynny, byddant yn dod yn berchnogion data yn ogystal â churaduron data...”

“Bydd hyn yn galluogi cymunedau i ddeall a rhestru eu hamgylchedd eu hunain yn well.”

Yr Athro Omer Rana Deon Rhyngwladol y Dwyrain Canol
Athro Peirianneg Perfformiad

Yn dilyn yr ymweliad maes, cafwyd gweithdy cydweithredol yn Sao Paulo lle cafodd yr Athro Edwards a’r Athro Rana gwmni tîm rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr cymdeithasol, gwyddonwyr cyfrifiadurol ac ecolegwyr o Fundação Getulio Vargas - Escola de Administração de Empresas de São Paulo - Prifysgol Campinas, a Phrifysgol ffederal Alameda.

Er mwyn gwneud cynnydd, rhaid i’r fenter fynd ati nawr i geisio cael arian drwy gynigion parhaus yn y DU ac ym Mrasil. Cewch ddilyn y cynnydd ar wefan RIN.

Mae RIN yn annog partneriaethau sy’n gosod yr agenda rhwng Prifysgol Caerdydd a rhanddeiliaid lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Mae'n ymrwymiad o ofal ar y cyd ar gyfer y dyfodol drwy gyfrwng stiwardiaeth ymatebol gwyddoniaeth ac arloesedd yn y presennol.

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwilwyr yn cydweithio gyda phartneriaid ledled y byd i ymdrin â phroblemau byd-eang difrifol fel mynediad dibynadwy at ddŵr yn Affrica.