Ewch i’r prif gynnwys

Nid yw’r Nadolig yn dymor ewyllys da i bawb

2 Ionawr 2018

Photograph of the outside of an emergency department

Awgrymodd astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd bod pobl yn rhagfarnllyd pan yn feddw.

Ar ôl cyfweld â 124 o bobl mewn unedau damweiniau ac achosion brys, gydag anafiadau sy'n deillio o drais, canfu'r ymchwilwyr fod 18.5% ohonynt yn ystyried eu bod wedi dioddef ymosodiad gan bobl ragfarnllyd. Adroddwyd bod meddwdod yn arbennig o berthnasol ac yn cyfrif am 90% o'r ymosodiadau a dargedwyd.

Er mai casineb oedd y cymhelliant sylfaenol a nodwyd, dim ond o dan ddylanwad alcohol y mynegwyd y casineb hwn.

Dywedodd yr Athro Jonathan Shepherd, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol: “Agwedd drawiadol o'r astudiaeth oedd y darganfyddiad nad casineb yn unig oedd y tu ôl i’r rhan fwyaf o ymosodiadau; roedd alcohol yn ei sbarduno hefyd yn ôl pob tebyg...”

“Mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn bwysig er lles iechyd unigolion a chymdeithas fel ei gilydd. Yn ogystal, rydym wedi gweld bod arolygon trais mewn ystafelloedd argyfwng yn gallu bod fel synhwyrydd tensiwn cymunedol ac yn system rhybuddio cynnar.”

Yr Athro Jonathan Shepherd Athro Emeritws mewn Llawfeddygaeth y Geg, y Genau a'r Wyneb

Cynhaliwyd yr arolwg ar draws 3 dinas yn y DU: Caerdydd, Blackburn a Chaerlŷr. Dewiswyd y dinasoedd hyn gan fod boblogaethau amlddiwylliannol, aml-ethnig ac aml-grefyddol yn y tair dinas.

Ymhlith y 23 o bobl a honnodd mai rhagfarn oedd wedi cymell yr ymosodiad arnynt, nododd saith mai eu hymddangosiad oedd y cymhelliad. Cyfeiriodd pump ohonynt at densiwn hiliol yn y cymunedau yr oeddent yn byw ynddynt, nododd tri eu man preswyl, a nododd wyth mai hil, crefydd neu eu cyfeiriadedd rhywiol oedd yr achos.

Roedd llawer o'r rhai a anafwyd mewn trais casineb yn credu y byddai cyfyngu ar faint o alcohol sy’n cael ei yfed yn strategaeth dda er mwyn lleihau'r risg.

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni’n lleihau’r nifer o droseddau treisiol drwy ymchwil newydd, defnydd newydd o ddata a chydweithio gwreiddiol rhwng meddygaeth a chyfiawnder troseddol.