Ewch i’r prif gynnwys

Dylanwad ac ymyrraeth rwsia yn dilyn ymosodiadau terfysgol 2017

18 Rhagfyr 2017

Social Media

Mae lefel y dylanwad a’r ymyrraeth gan gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â Rwsia, â’r nod o greu rhaniadau cymdeithasol yn y DU, yn digwydd ar raddfa dipyn ehangach na’r hyn a hysbyswyd hyd yma.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn nodi defnydd systematig o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug sy’n gysylltiedig â Rwsia, i chwyddo effeithiau cyhoeddus pedwar o ymosodiadau terfysgol a ddigwyddodd yn y DU yn 2017 – ar Bont Westminster, Manchester Arena, Pont Llundain a Pharc Finsbury.

Wrth ddadansoddi 30m o bwyntiau data o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol, daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad y defnyddiwyd o leiaf 47 o gyfrifon gwahanol er mwyn dylanwadu ar y ddadl gyhoeddus, ac ymyrryd â hi, yn dilyn y pedwar ymosodiad. O'r rhain, roedd wyth o gyfrifon yn arbennig o weithgar, gan anfon o leiaf 475 o negeseuon Twitter ar draws y pedwar ymosodiad. Cafodd y rhain eu hailanfon dros 153,000 o weithiau.

Agwedd arwyddocaol ar yr ymgyrchoedd ymyrryd hyn oedd y defnydd o'r cyfrifon hynny fel ‘pypedau sanau’ – lle gwnaed ymyriadau ar y ddwy ochr o ddadleuon hollt, gan chwyddo eu negeseuon a chynyddu lefel yr anghytgord a’r anghytuno yn y ddadl gyhoeddus ar-lein.

Yn ôl yr Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol: “Yn y bôn, diben trais terfysgol yw codi braw, ysgogi a hollti ei chynulleidfaoedd. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu ymgyrch gyfathrebu wleidyddol strategol systematig, a gyfeiriwyd at y DU ac a luniwyd er mwyn gwaethygu niwed cyhoeddus ymosodiadau terfysgol...”

“Gyda thrydydd partïon yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel arfau i chwyddo’r effeithiau hyn, mae gofyn iddynt wneud rhywbeth ar unwaith er mwyn lliniaru hyn.”

Yr Athro Martin Innes Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma. Ariannwyd yr ymchwil gan y Ganolfan Ymchwil a Thystiolaeth am Fygythiadau Terfysgol (CREST).

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.