Ewch i’r prif gynnwys

Lledaenu newyddion ffug yn dilyn ymosodiadau terfysgol

20 Mehefin 2017

'Fake News' written in code

Bydd sut mae newyddion ffug yn lledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn ymosodiadau terfysgol mawr, a beth y gall yr heddlu ei wneud i reoli ei effaith ar ymddygiad y cyhoedd, yn cael ei ddadansoddi am y tro cyntaf gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dan arweiniad Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol, bydd yr ymchwil newydd yn ystyried y sibrydion, y damcaniaethau am gynllwynion, propaganda ideolegol a newyddion ffug ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn ymosodiadau terfysgol. Bydd hyn yn cynnwys llofruddiaeth Jo Cox AS yng nghyd-destun ymgyrch ehangach Brexit mewn cysylltiad â’r refferendwm a’r ymosodiadau yn San Steffan, Manceinion a Phont Llundain yn 2017.

Bydd y tîm hefyd yn dadansoddi negeseuon gan yr heddlu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â deunydd a gyflwynir gan yr heddlu a’r sefydliadau diogelwch i reoli gwybodaeth anghywir.

Bydd astudio’r data hwn am y tro cyntaf yn helpu ymchwilwyr i ddeall sut mae newyddion ffug yn lledaenu yn dilyn troseddau a digwyddiadau diogelwch o bwys, yn ogystal â sut mae llwyfannau ac amgylcheddau digidol yn llywio ymddygiad cyfoes.

Rhwydwaith Gwrth-derfysgaeth Cenedlaethol

Caiff canlyniadau’r astudiaeth eu defnyddio i helpu’r heddlu i lunio a chyflwyno strategaethau cyfathrebu gwell ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n lleihau’r tensiwn mewn cymunedau a’r peryglon o anhrefn gyhoeddus yn dilyn ymosodiadau terfysgol. Drwy weithio gydag aelodau o’r Rhwydwaith Gwrth-derfysgaeth Cenedlaethol, bydd canfyddiadau’r astudiaeth yn helpu i lywio polisïau ac ymarfer yn y dyfodol ar gyfer sefyllfaoedd sy’n newid yn gyflym pan mae llawer o wybodaeth yn cael ei rhannu.

Meddai’r Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol fydd yn arwain yr ymchwil: “Yn ddiweddar, gwelwyd pryderon cynyddol ymysg gwleidyddion a’r cyhoedd ynghylch lledaeniad newyddion ffug a phropaganda ar y cyfryngau cymdeithasol a’r we, yn ogystal â llawer o awgrymiadau ynghylch sut i fynd i'r afael â’r broblem gymdeithasol newydd hon...”

“Drwy gynnal astudiaeth fanwl o sut mae sibrydion a damcaniaethau am gynllwynion yn dod i’r amlwg ac yn lledaenu yn dilyn ymosodiadau terfysgol a sefyllfaoedd llawn tensiwn, bydd ein prosiect yn cynhyrchu tystiolaeth ymchwil a gwybodaeth gadarn ac annibynnol am pam mae ‘ffeithiau ffug’ yn cael cymaint o ddylanwad ar agweddau a barn y cyhoedd.”

Yr Athro Martin Innes Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch

Mae hwn yn un o wyth prosiect a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Ymchwil a Thystiolaeth am Fygythiadau Terfysgol (CREST). Prifysgol Lancaster sy’n arwain y Ganolfan a’i nod yw mynd i’r afael â rhai o’r bygythiadau i ddiogelwch yn y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.