Mae gan hyd yn oed famaliaid gwyllt dafodieithoedd rhanbarthol
13 Rhagfyr 2017
Mae ymchwilwyr o Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd wedi darganfod bod gan boblogaethau o ddyfrgwn gwyllt â genynnau penodol ledled y DU eu harogleuon rhanbarthol eu hunain ar gyfer cyfleu gwybodaeth hanfodol i’w gilydd. Gallai’r canfyddiadau gael goblygiadau ar gyfer ymdrechion i warchod mamaliaid gwyllt.
Mae'r astudiaeth, fu’n edrych ar secretiadau cemegol gan y dyfrgi Ewrasiaidd, yn awgrymu bod gan ddyfrgwn gwyllt â genynnau penodol dafodieithoedd arogl gwahanol, a allai fod wedi'u hysgogi gan fod ar wahân yn ddaearyddol. Datgelodd hefyd mai’r grwpiau o ddyfrgwn â’r proffiliau arogl mwyaf nodedig oedd a’r eneteg fwyaf amrywiol.
Dywedodd Dr Elizabeth Chadwick, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Mae gan lawer o famaliaid chwarennau arogl er mwyn gadael negeseuon cemegol sy'n darparu gwybodaeth ynglŷn â rhyw ac oedran. Mae ein gwaith ymchwil newydd yn dangos y gallai’r arogleuon hyn ddatgelu gwahaniaethau genetig hefyd..."
Mae cyfathrebu cemegol yn hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o rywogaethau mamaliaid ac yn caniatáu iddynt farcio eu tiriogaeth, adnabod anifeiliaid eraill, denu cymar, a nodi gwybodaeth allweddol. Mae dyfrgwn yn defnyddio pâr o chwarennau’r anws wrth farcio arogl, ac mae ymchwil Prosiect Dyfrgwn blaenorol wedi dangos bod arogl eu secretiadau yn gysylltiedig ag oedran, rhyw, statws atgenhedlu a hunaniaeth unigol dyfrgwn.
Ychwanegodd Dr Chadwick: "Mae ein canfyddiadau yn codi cwestiynau diddorol. Yn yr un modd y gallai pobl o Lundain gael trafferth deall rhai o dafodieithoedd llafar pobl Caerdydd, ni all grwpiau o ddyfrgwn gyda gwahanol dafodieithoedd arogl ganfod gwybodaeth adnabod oddi wrth ei gilydd."
"Heb ymchwil pellach, nid yw'n glir sut mae’r dyfrgwn yn dehongli'r gwahaniaeth cemegol mewn secretiadau. Os nad ydyn nhw'n 'hoffi' neu’n 'deall' arogleuon anghyfarwydd efallai y bydd y gwahaniaethau hyn yn eu hatal rhag cymysgu-fel y mae pobl weithiau yn osgoi'r rheini o ddiwylliannau gwahanol. Ar y llaw arall, mae amrywiaeth genetig yn gwneud unigolion yn iachach – felly efallai bod cael eu denu at ddyfrgwn ag arogl anghyfarwydd yn rhan o'r dull esblygol i osgoi mewnfridio, ac ysgogi cymysgu genetig.
"O ystyried y dystiolaeth bod y gwahaniaeth mewn arogl yn adlewyrchu gwahaniaethau genetig, mae'n rhywbeth y dylid rhoi mwy o sylw iddo, er enghraifft mewn rhaglenni adfer rhywogaethau a rhyddhau o gaethiwed."
Cyhoeddir yr ymchwil 'Tafodieithoedd arogl ymhlith mamaliaid gwyllt' yn Scientific Reports.