Ewch i’r prif gynnwys

Ffesantod yn fwy tebygol o gael eu lladd ar ffyrdd Prydain

12 Hydref 2017

Pheasant Bird

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg, mae ffesantod 13 gwaith yn fwy tebygol nag adar eraill o farw ar ffyrdd.

Ffesantod yw bron 7% o’r holl greaduriaid sy’n cael eu lladd ar ffyrdd Prydain, ac fe arweiniodd 6% o’r achosion hyn at farwolaethau neu anafiadau difrifol ymysg pobl. Mae ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg yn awgrymu pam mae ffesantod yn fwy tebygol o gael eu taro o’u cymharu ag adar eraill.

Fe gymharodd yr ymchwilwyr ffigurau am greaduriaid yn cael eu lladd ar y ffyrdd yn y 1960au a’r 2010au gan ddangos bod y rhan fwyaf o ffesantod yn cael eu lladd ar y ffyrdd ar yr adegau hynny o’r flwyddyn pan mae’r rhai a fagwyd mewn caethiwed yn cael eu rhyddhau o’u corlannau.

Meddai Dr Sarah Perkins, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd: "Mae amrywiaeth o resymau pam mae ffesantod yn fwy tebygol o farw ar ein ffyrdd, ac maent yn cynnwys eu pellteroedd hedfan byr.

"Drwy edrych ar y data, gallwn weld bod yr adegau o'r flwyddyn pan mae ffesantod yn cael eu lladd wedi newid.

"Mae’r adegau hyn yn cyd-fynd â rhyddhau ffesantod a fagwyd mewn caethiwed a phan mae’r cyfnod bwydo yn dod i ben ar ddiwedd y tymor saethu."

Mae ymchwil yn dangos mai rhwng mis Medi a mis Tachwedd yw’r cyfnod cyntaf pan mae’r niferoedd sy’n cael eu lladd yn codi. Mae’r niferoedd yn gostwng dros y gaeaf ac yna’n codi eto ym mis Chwefror pan mae’r cyfnod bwydo ychwanegol yn dod i ben.

"Gallai’r ffesantod hyn fod mewn mwy o berygl ar ôl eu rhyddhau gan nad ydynt yn cael eu magu gan rieni, ac felly nid ydynt wedi dysgu sgiliau goroesi.

"Gallai newidiadau mewn ymddygiad fod o gymorth wrth warchod ffesantod. Os caiff ffesantod eu bwydo i ffwrdd o’r ffyrdd, ac maent yn parhau i gael eu bwydo rhwng mis Chwefror a mis Mai, gallai hynny eu hatal rhag cerdded ar y ffyrdd.

"Mae ein gwaith yn dangos sut y gall newidiadau mewn ymddygiad anifeiliaid ddod i’r amlwg mewn data am greaduriaid sy’n cael eu lladd ar y ffyrdd a adroddir gan aelodau o'r cyhoedd, yn ogystal â gwerth gwyddoniaeth dinasyddion," meddai Dr Perkins.

Rhannu’r stori hon