Ewch i’r prif gynnwys

Offerynnau Chwyth Symffonig yn ennill Gwobr Aur yng Ngŵyl Genedlaethol Bandiau Cyngerdd

30 Tachwedd 2017

Performance

Yn ddiweddar, cipiodd ensemble Offerynnau Chwyth Symffonig Prifysgol Caerdydd y wobr Aur yng Ngŵyl Genedlaethol y Bandiau Cyngerdd.

Cystadlodd yr ensemble yn y dosbarth Agored, ‘dosbarth uchaf y bandiau offerynnau chwyth’ a dyfarnwyd y wobr Aur iddynt am berfformio Toccata Marziale gan Vaughan Williams a Sketches on a Tudor Psalm gan Fisher Tull.

Cafodd yr Ŵyl ei chynnal yn All Saints Academy, Cheltenham ddydd Sul 26 Tachwedd ac roedd y cyn Asgell-gomander Duncan Stubbs, oedd gynt yn gyfarwyddwr cerdd Band Canolog yr Awyrlu, ymhlith y beirniaid.

Bellach, mae’r ensemble yn aros i glywed a ydynt wedi cael gwahoddiad i Ŵyl Genedlaethol NCBF yn y Royal Northern College of Music ym mis Ebrill.

Hon oedd ŵyl gyntaf cyfarwyddwr yr ensemble, David Gordon-Shute, a dywedodd: “Roedd perfformiad y myfyrwyr yn ardderchog ac rydym wrth ein bodd i fod wedi cipio’r wobr Aur. Rhaid llongyfarch pob aelod o’r ensemble. Gan mai hwn oedd y tro cyntaf i mi fynd i’r NCBF, roedd y broses yn agoriad llygad i mi. Cawsom adborth cadarnhaol yn bennaf gan y beirniad Duncan Stubbs oedd yn gadarnhaol, ond cawsom hefyd awgrymiadau da ganddo ar gyfer y dyfodol.

Mae Ensemble Offerynnau Chwyth Symffonig Prifysgol Caerdydd, a gyflwynwyd yn 2017, yn cynnal cyngherddau rheolaidd ac yn perfformio darnau o sawl canrif, o Thomas Tallis i John Adams.

Mae Ŵyl Genedlaethol y Bandiau Cyngerdd wedi cael ei chynnal ers dros 30 mlynedd ac mae’r ŵyl fwyaf i fandiau offerynnau chwyth a bandiau mawr y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.