Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Gerddoriaeth yn yr 8fed safle yn ôl y Times

26 Medi 2017

Music scholarships

Mae’r Ysgol Gerddoriaeth yn dathlu cyrraedd yr 8fed safle yn y Times Good University Guide 2018, llwyddiant arall i ychwanegu at y rhestr hir eleni.

Daw’r gymeradwyaeth hon ar ôl dringo i safle 12 yn y Complete University Guide a safle 13 yn nhablau cynghrair y Guardian ar gyfer Prifysgolion.

Mae’r Ysgol hefyd wedi dathlu cyflawniad gwych, sef lefel boddhad o 96% ymhlith y myfyrwyr ar raglenni israddedig, a lefelau boddhad o 100% ymhlith y myfyrwyr ar gyfer yr MA mewn cerddoriaeth.

Yn ddiamau, y cyflawniadau gwych hyn, a gwaith caled ac ymroddiad staff yr Ysgol, sydd wedi peri bod Prifysgol Caerdydd yn cynnwys yr Ysgol Gerddoriaeth yn un o dair ar y rhestr fer ar gyfer Ysgol y Flwyddyn 2017.

Dywedodd Pennaeth yr ysgol, yr Athro Kenneth Hamilton, am y llwyddiant hwn "Mae pawb ohonom ni’n ymwybodol nad oes gan dablau cynghrair fawr ddim i’w wneud â cherddoriaeth na chelfyddyd.  Serch hynny, rydym wrth gwrs yn falch iawn pan fyddwn ni'n gwneud yn dda ynddynt. Ond rydym yn gwneud yn dda trwy ganolbwyntio ar gerddoriaeth, addysg a chelfyddyd, yn hytrach nag ar yr ystadegau eu hunain.”

Mae’r Times/Sunday Times Good University Guide yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol.  Mae i’w weld ar-lein.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.