Ewch i’r prif gynnwys

Rhan fwyaf o fyfyrwyr Addysg Bellach wedi profi trais wrth fynd allan gyda rhywun neu fod mewn perthynas

30 Tachwedd 2017

Relationship violence

Mae dros 50% o fyfyrwyr Addysg Bellach rhwng 16 a 19 oed wedi profi rhyw fath o drais wrth fynd allan gyda rhywun neu fod mewn perthynas, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi canfod bod 55.1% o ddynion a 53.5% o fenywod yn dweud eu bod wedi profi rhyw fath o drais mewn perthynas, o blith grŵp o fyfyrwyr Addysg Bellach rhwng 16 a 19 oed yng Nghymru a Lloegr.

Canfu'r canlyniadau hefyd fod y rhai a oedd wedi anfon llun rhywiol o'u hun rhwng 2-8 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi profi rhyw fath o drais mewn perthynas. Nododd tua 45% o'r rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth eu bod wedi anfon lluniau rhywiol.

Diffinnir trais wrth fynd allan gyda rhywun neu fod mewn perthynas fel bygythiadau, cam-drin emosiynol, gorfodaeth, ymddygiadau i geisio rheoli rhywun, gweithgareddau rhywiol heb ganiatâd neu gamdriniol gan gyn-bartner dros dro neu gyn-bartner sefydlog.

Canfu'r astudiaeth, a gasglodd data gan 2105 o fyfyrwyr, mai'r math mwyaf cyffredin o drais mewn perthynas oedd ymddygiadau i geisio rheoli rhywun, a bod mwy nag un rhan o dair o'r rhai a gymerodd rhan wedi cael profiad ohono.

Dywedodd arweinydd yr ymchwil, Dr Honor Young o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Canfu'r astudiaeth hon nad oedd cysylltiad, yn gyffredinol, rhwng nodweddion demograffig-gymdeithasol a thrais wrth fynd allan gyda rhywun neu fod mewn perthynas. Mae'r ffaith nad oes gwahaniaethau rhwng y rhywiau a phatrymau cymdeithasol yn awgrymu bod trais wrth fynd allan gyda rhywun neu fod mewn perthynas yn dod yn normal ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-19 oed.

"Canfu'r astudiaeth hefyd fod y tebygolrwydd o brofi rhyw fath o drais mewn perthynas yn uwch ymhlith y rhai sydd wedi anfon llun rhywiol. Roedd hyn rhwng 2-8 gwaith yn uwch ar gyfer dynion a 2-4 gwaith yn uwch ar gyfer menywod..."

"Gyda'r data sydd gennym, nid ydym yn gwybod trefn y digwyddiadau – hynny yw beth ddaeth yn gyntaf, y delweddau rhywiol neu'r trais mewn perthynas – ond rydym yn gwybod bod y rhai sydd wedi anfon llun rhywiol yn fwy tebygol hefyd o fod wedi profi rhyw fath o drais wrth fynd allan gyda rhywun neu fod mewn perthynas."

Dr Honor Young Lecturer in quantitative research methods / Research associate

Cynhaliwyd yr ymchwil fel rhan o brosiect SaFE (Safe Sex and Healthy Relationships in Further Education), menter gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, y Sefydliad Addysg a'r elusen iechyd rhywiol Brook. Cafodd yr ymchwil ei hariannu gan Gynllun Datblygu Ymyriadau Iechyd y Cyhoedd y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Mae'r papur, Dating and relationship violence among 16–19 year olds in England and Wales: a cross-sectional study of victimization wedi'i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Journal of Public Health.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.