Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol disglair i raddedigion y Gymraeg

28 Tachwedd 2017

Llun (chwith i'r dde) o Eryl Jones, Janet Davies, Angharad Naylor, Dylan Foster Evans, Eleri James, Manon Humphreys yn lansio'r BA Cymraeg a'r Gweithle Proffesiynol
Eryl Jones, Janet Davies, Angharad Naylor, Dylan Foster Evans, Eleri James, Manon Humphreys yn lansio'r BA Cymraeg a'r Gweithle Proffesiynol

Panel o reolwyr ac arweinwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn gytûn bod y cyfleoedd sydd ar gael i raddedigion y Gymraeg yn cynyddu yn y gweithle proffesiynol.

Lansiwyd gradd anrhydedd sengl newydd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ar 15 Tachwedd 2017, yng nghwmni cynulleidfa o fyfyrwyr a staff y Brifysgol a phanel gwahoddedig o unigolion o wahanol feysydd.

Mae’r radd newydd, BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol, yn cyfuno darpariaeth academaidd o’r radd flaenaf a phrofiad proffesiynol ac ymarferol. Nod y rhaglen gyffrous, gyfoes ac amrywiol hon yw paratoi graddedigion ar gyfer ystod o yrfaoedd posibl lle mae galw am sgiliau iaith uchel a’r gallu i weithio’n greadigol ac yn broffesiynol drwy’r Gymraeg.

Ar y panel yr oedd Janet Davies, Rheolwr-Gyfarwyddwr cwmni cyfieithu Prysg, Eryl Jones, Rheolwr-Gyfarwyddwr cwmni cysylltiadau cyhoeddus Equinox, Dr Eleri James, Uwch Swyddog Is-Adeiledd ac Ymchwil yn Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, a Manon Humphreys, Cydlynydd y Gymraeg yn Amgueddfa Cymru.

Dr Angharad Naylor, Tiwtor Derbyn yn Ysgol y Gymraeg, oedd yn arwain y drafodaeth anffurfiol ar  greu’r Gymru broffesiynol a pha rôl sydd i raddedigion y Gymraeg yn y gweithle.

Dywedodd: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y rhaglen newydd hon ar gyfer Mynediad 2018 ac yn hynod o ddiolchgar i’r panel am eu cefnogaeth wrth inni lansio’r radd.

“Roedd y drafodaeth yn un ddifyr ac ysbrydoledig gyda chyfraniadau personol a phroffesiynol gwerthfawr. Roedd hi’n wych cael clywed am brofiadau’r panel o weithio trwy’r Gymraeg a chyflogi graddedigion y Gymraeg. Yr hyn ddaeth i’r amlwg oedd pwysigrwydd a gwerth sgiliau iaith a sgiliau cyfathrebu cadarn yn y gweithle a bod gradd yn y Gymraeg yn agor drysau i bob math o gyfleoedd proffesiynol a gyrfaoedd posibl.”

Roedd y drafodaeth yn un amrywiol a chynhwysfawr. Nodwyd ei bod hi’n adeg gyffrous iawn i raddedigion y Gymraeg oherwydd bod cynnydd mawr yn y galw am weithlu Cymraeg ei iaith.

Soniodd Eryl Jones am ba mor anodd yw hi i recriwtio graddedigion sydd yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ac yn greadigol. Nododd fod gradd yn y Gymraeg yn sylfaen dda yn y diwydiant cyfathrebu a marchnata a chytunodd Eleri James fod y radd yn un eang sydd yn rhoi’r sgiliau academaidd angenrheidiol i fyfyrwyr allu datblygu a mireinio eu sgiliau ysgrifenedig a’u dealltwriaeth o wahanol fathau o destunau sy’n sgiliau gwbl allweddol i’r gweithle.

Awgrymodd Manon Humphreys fod amgylchedd a disgwyliadau’r gweithle cyfoes yn newid yn gyson a bod cyfleoedd arbennig i raddedigion y Gymraeg gyfuno eu sgiliau academaidd a’u diddordebau er mwyn cyfoethogi ystod o weithleoedd lle mae’r galw am y Gymraeg yn allweddol.

Mae hi’n gyfnod o newid mawr i’r Gymraeg a dangosodd y drafodaeth hon yn glir gymaint y bydd graddedigion y dyfodol yn cyfrannu at y newid hwn ac yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu gweithlu cyfrwng Cymraeg. Roedd Janet Davies yn gytûn bod y newidiadau sy’n wynebu gweithleoedd, a’r safonau iaith yn benodol, yn golygu bod sgiliau Cymraeg a phrofiad o roi’r sgiliau hynny ar waith o fudd enfawr i weithleoedd yng Nghymru.

Mae’r rhaglenni gradd yn Ysgol y Gymraeg yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau academaidd ac ymarferol ym meysydd ieithyddiaeth, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg.

Meddai Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Hoffwn ddiolch i’r panel am ymuno â ni ac am eu cyfraniadau ysbrydoledig a chraff am y rôl sydd gan raddedigion y Gymraeg i’w chwarae mewn gwahanol sectorau ar draws Gymru.

“Fel Ysgol, rydym yn awyddus i hybu sgiliau cyflogadwyedd a phrofiadau proffesiynol ein myfyrwyr ac rydym yn falch iawn fod 100% o raddedigion 2016 mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach chwe mis ar ôl graddio. Edrychwn ymlaen at groesawu darpar fyfyrwyr i’r Ysgol y flwyddyn nesaf.”

Darllenwch ragor am y BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol sydd yn derbyn myfyrwyr ar gyfer Mynediad 2018.

Watch a video from the launch.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.