Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau rhagorol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr

15 Awst 2017

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi derbyn sgôr ardderchog o 92% am foddhad cyffredinol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) 2017.

At hynny, roedd 100% o’r myfyrwyr yn cytuno â’r canlynol:

  • Mae’r staff yn esbonio pethau’n dda
  • Mae’r staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol
  • Mae fy nghwrs wedi fy herio i wneud fy ngwaith gorau
  • Mae’r adborth ar fy ngwaith wedi bod yn amserol
  • Rydw i wedi gallu cysylltu â’r staff pan oedd angen
  • Mae adnoddau’r llyfrgell (e.e. llyfrau, gwasanaethau ar-lein a gofod dysgu) wedi cefnogi fy nysgu yn dda
  • Mae’r staff yn gwerthfawrogi safbwyntiau a barn y myfyrwyr am y cwrs

Cyhoeddir Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, sy’n gofyn i israddedigion sgorio eu profiadau yn y Brifysgol ar draws sawl maes thematig (gan gynnwys safon addysgu, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol gwahanol), yn flynyddol.

Meddai Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Dyma ganlyniadau gwych sy’n adlewyrchu barn onest ein myfyrwyr, ac sy’n tystio i safon ac ansawdd darpariaeth yr Ysgol.

“Mae derbyn adborth o’r fath yn hollbwysig i ni fel ffordd o fesur cryfderau ein rhaglenni israddedig ac er mwyn ein helpu i gynllunio at y dyfodol. Mae parhau i ddatblygu ein darpariaeth a gwella profiad y myfyrwyr yn flaenoriaeth inni — nid oes modd gwneud hynny heb glywed barn y myfyrwyr eu hunain.”

Ychwanegodd Dr Foster Evans: “Mae’r canlyniadau’n galonogol iawn a hoffwn ddiolch i staff yr Ysgol am eu gwaith diflino a hefyd i’r myfyrwyr am eu cyfraniad anhepgor hwythau. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr er mwyn cynnal y safonau uchel hyn ac adeiladu arnynt yn y dyfodol.”

Mae’n gyfnod cyffrous yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, gyda dwy radd newydd ar gael i ymgeiswyr ar gyfer 2018: BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol a BSc Rheolaeth Busnes gyda’r Gymraeg. Bydd y rhaglenni newydd hyn yn ychwanegu at ddarpariaeth gyfredol yr Ysgol er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd proffesiynol yn y Gymru gyfoes.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.