Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwraig yn ennill ysgoloriaeth gwerth £5,000

27 Tachwedd 2017

Mae Nest Jenkins, myfyrwraig y Gyfraith a’r Gymraeg (LLB) ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn Ysgoloriaeth William Salesbury.

Eleni, rhoddodd Cronfa Genedlaethol William Salesbury ddwy ysgoloriaeth gwerth £5,000 yr un dros dair blynedd i ddarpar fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bwriad yr ysgoloriaethau yw hybu a chefnogi addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Mae’r ysgoloriaethau hyn yn coffáu William Salesbury (c.1507–c.1584), ysgolhaig craff a phrif gyfieithydd y Testament Newydd Cymraeg cyntaf ym 1567.

Sefydlwyd y Gronfa i roi cyfle i gefnogwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg gyfrannu’n ariannol i gynorthwyo myfyrwyr sy’n astudio 100% o’u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg dan nawdd y Coleg.

Dywedodd Nest, sy’n wreiddiol o Ledrod yng Ngheredigion: “Mae hi’n fraint enfawr i dderbyn ysgoloriaeth mor uchel ei pharch sy’n dwyn enw ffigwr mor allweddol yn hanes Cymru.

“Roeddwn yn ymwybodol o hanes arbennig William Salesbury ac wedi clywed am y gronfa. Ar ôl ymchwilio, deallais fy mod i’n gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth gan fod modd imi ddilyn fy ngradd yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg. Roedd yn gyfle rhy dda i’w golli: codi ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth Gymraeg a chael cymorth ariannol gwerthfawr ar yr un pryd! Er fy mod ar hyn o bryd yn cadw fy opsiynau proffesiynol ar ôl graddio yn lled agored, rwy’n benderfynol o aros yng Nghymru a gweithio yn fy mamiaith.”

Meddai Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg:

“Hoffwn longyfarch Nest yn wresog am ennill Ysgoloriaeth William Salesbury, sydd yn dyst i’w chyrhaeddiad a’i photensial academaidd. Mae pawb yn Ysgol y Gymraeg yn dymuno pob hwyl iddi yn ei hastudiaethau dros y tair blynedd nesaf.”

Dr Dylan Foster Evans Pennaeth yr Ysgol

Ychwanegodd Nest am ei phrofiad fel myfyriwr yn y brifddinas: “Dwi wrth fy modd yng nghanol bwrlwm y brifddinas ac yn mwynhau fy astudiaethau’n fawr. Mae’r cwrs yn un heriol a chyffrous a’r gymuned Gymraeg yma yn un hynod groesawgar. Er y gwaith, amhosib fyddai peidio cymdeithasu boed gyda’r GymGym, Côr y Waun Ddyfal neu fel teulu mawr yn Llys Senghennydd!”

Mae Ysgol y Gymraeg yn cynnig nifer o ysgoloriaethau ar gyfer darpar fyfyrwyr, gan gynnwys yr Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.