Ewch i’r prif gynnwys

Anhwylderau niwroddatblygiadol: beth sy'n digwydd pan fydd plant yn tyfu a pham?

Bydd anhwylderau niwroddatblygiadol megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn effeithio ar o leiaf un o bob 10 o blant.

Roedd tyb y bydden nhw’n dechrau yn y blynyddoedd cynnar ac yn pallu erbyn y glasoed. Erbyn hyn, fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod eu bod yn effeithio ar oedolion hefyd, er nad oes llawer yn hysbys am hynny eto. I ddechrau, rhaid gwybod beth sy'n ‘arferol’ neu'n nodweddiadol.

Dull yr ymchwil

Am y tro cyntaf, byddwn ni’n ystyried problemau niwroddatblygiadol ymhlith tua 8,000 o oedolion 26 oed sydd wedi’u hasesu yn rheolaidd ers iddyn nhw fod yn y groth. At hynny, byddwn ni’n asesu gorbryder, iselder ac anniddigrwydd yn ôl yr un meini prawf a ddefnyddiwyd yn ystod plentyndod a llencyndod.

Byddwn ni'n disgrifio problemau niwroddatblygiadol pobl 26 oed, yn ogystal â nodi lle mae gorbryder, iselder a phroblemau eraill iechyd y meddwl yr un pryd. Byddwn ni’n dysgu sut mae problemau niwroddatblygiadol yn ymwneud â phroffiliau niwroddatblygiadol plant a’r glasoed ac yn gweithio gyda charfannau poblogaethau gwledydd eraill i ofalu bod ein canfyddiadau’n gadarn.

Byddwn ni’n asesu faint mae profiadau’r blynyddoedd cynnar (yn y groth ac wedyn) yn effeithio ar iechyd niwroddatblygiadol gydol oes (hyd at 26 oed, o leiaf) hefyd, trwy amryw ddulliau nodi achosion megis Mendelian Randomization.

Byddwn ni’n ystyried effaith genynnau, hefyd. Trwy astudio gwahanol boblogaethau, bydd modd cryfhau'r math hwn o ymchwil yn rhyngwladol. Wellcome Trust sy’n noddi’r gwaith trwy gronfa er cydweithio.

Deilliannau arfaethedig

Yn gyntaf, byddwn ni'n disgrifio hanes naturiol anhwylderau niwroddatblygiadol o blentyndod i fywyd oedolyn (rhwng 4 a 26 oed) mewn carfan yn y deyrnas hon lle mae pobl wedi’u hasesu sawl gwaith ar amryw oedrannau.

Wedyn, byddwn ni’n edrych ar effeithiau dros y tymor hwy gan gynnwys cysylltiadau ag iselder.

Yn olaf, byddwn ni'n defnyddio dulliau epidemiolegol newydd i weld pa beryglon yn y blynyddoedd cynnar a allai arwain at broblemau.

Tîm ymchwil

Dr Lucy Riglin

Dr Lucy Riglin

Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
riglinl@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8419
Yr Athro Anita Thapar

Yr Athro Anita Thapar

Clinical Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
thapar@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8478

Rydym yn cydweithio ar y prosiect hwn gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bryste, gan gynnwys:

Cyd-ymchwilwyr

  • Professor George Davey Smith
  • Dr Evie Stergiakouli
  • Professor Kate Tilling

Ymchwilwyr ôl-ddoethurol

  • Dr Beate Leppert