Ewch i’r prif gynnwys

Allgymorth cymunedol

Professor Simon Ward at the Eisteddfod
Professor Simon Ward at the Eisteddfod

Mae ein staff yn aml yn ymgysylltu â’r gymuned ac yn ymgymryd â gwaith allgymorth. Eu nod yw annog dysgwyr ifanc a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o faes darganfod meddyginiaethau.

Mae gwyddonwyr o’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn cyflwyno sesiynau rhyngweithiol yn Gymraeg a Saesneg i ysgolion a grwpiau cymunedol yn ardal Caerdydd.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Eisteddfod Genedlaethol 2022

Daeth llwyddiant i ran un o fyfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyfarnwyd y brif wobr cyfansoddi Gwyddoniaeth a Thechnoleg - y gystadleuaeth Dyfeisio ac Arloesi - yn llawn i Bedwyr ab Ion Thomas. Darllen y stori lawn.

Eisteddfod yr Urdd 2019

Yn 2019, cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei chynnal ym mhrifddinas Cymru am y tro cyntaf ers degawd. Ymunodd y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau â’r ŵyl i rannu sut mae gwyddonwyr y Sefydliad yn dod o hyd i therapïau newydd. Rhoddodd gyfle i blant a phobl ifanc gael profiad ymarferol o ddarganfod meddyginiaethau.

Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2019

Cymerodd Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ran yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caerdydd er mwyn rhannu eu gwaith o ddod o hyd i therapïau newydd. Roeddent hefyd am ymgysylltu â theuluoedd ynghylch y broses o ddatblygu cyffuriau.

Aeth gwyddonwyr o'r Sefydliad â gweithgareddau rhyngweithiol allan i strydoedd Caerdydd, i ddangos sut mae cyffuriau yn cael eu prosesu yn y corff a sut mae cyfansoddion newydd yn cael eu darganfod.

Tafwyl 2018

Roedd y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yng Ngŵyl Tafwyl yn rhannu’r wyddoniaeth sydd y tu ôl i ddatblygiad Therapiwteg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Medicines Discovery Institute team demonstrating interactive activity to children in white coats

Eisteddfod 2018

Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gŵyl sy’n dathlu iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, i Fae Caerdydd ym mis Awst 2018. Fe berfformiodd ymchwilwyr o’r Sefydliad yn yr ŵyl er mwyn dathlu’r ymchwil wyddonol a gynhelir yng Nghymru a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’u gwaith.