Ewch i’r prif gynnwys

Ymunwch â ni

Female Researcher Inspecting equipment in chemistry lab

Mae’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, sydd â chyfleusterau modern trawiadol a staff a myfyrwyr tra thalentog, yn rhywle dynamig ac ysgogol i wneud ymchwil.

Canolbwynt rhyngwladol ar gyfer darganfod cyffuriau

Rydym yn recriwtio gwyddonwyr eithriadol o bob cwr o'r byd i lywio a chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

"Yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, rydym yn rhoi’r cyfle i ddatblygu’n broffesiynol wrth wneud gwaith ymchwil cyffrous a fydd yn cael effaith go iawn ar fywyd cleifion."
Yr Athro John Atack Cyfarwyddwr, y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Mae ymuno â'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau’n gyfle i fod yn rhan o wyddoniaeth sy'n arwain y byd, datblygu’n broffesiynol a chael effaith wirioneddol ar fywyd cleifion.

"Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau’n lle gwych i weithio oherwydd yr amgylchedd amlddisgyblaethol. A minnau’n fiolegydd, mae’r gallu i weithio ochr yn ochr â fferyllwyr yn rhan o’r broses darganfod cyffuriau’n hynod o fuddiol. Dechreuais yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yn astudio ar gyfer gradd Meistr. Erbyn hyn, rwy’n Uwch Dechnegydd Labordy sy’n gweithio ym maes Oncoleg."
Josephine Pedder Research Assistant

Hyfforddi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddarganfyddwyr cyffuriau

Rydym yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i gymryd y cam nesaf ar eu taith i ddod yn wyddonwyr darganfod meddyginiaethau.

"Mae astudio yma yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau wedi datblygu fy nealltwriaeth o sut mae’r byd darganfod meddyginiaethau’n gweithio. Mae cael y cyfle i astudio ar gyfer fy PhD drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth unigryw hefyd sy’n fy ngalluogi i ddysgu a defnyddio gwyddoniaeth arloesol yn fy mamiaith ac yn Saesneg."
Bedwyr Ab Ion Thomas

Mae ein Sefydliad yn enwog am fod yn rhywle delfrydol i hyfforddi graddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig. Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio mewn timau amlddisgyblaethol o wyddonwyr a chael profiad o bob agwedd ar y broses darganfod meddyginiaethau.

“Ers cael fy PhD, mae ymuno â'r Sefydliad i gael profiad go iawn o’r broses darganfod meddyginiaethau wedi bod yn wych ac wedi rhoi’r sgiliau i mi symud ymlaen i’r diwydiant fferyllol.”
Dr Ellen Watts

Rhaglenni ôl-raddedig

Ewch i dudalen ysgoloriaethau a phrosiectau PhD Prifysgol Caerdydd.

Mae swyddi gwag ar gael yn aml oherwydd ein llwyddiant parhaus. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau