Ewch i’r prif gynnwys

Diweddariad coronafeirws - 12/03/20

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Annwyl gydweithwyr a myfyrwyr,

Ysgrifennaf atoch i roi’r newyddion diweddaraf i chi am ymateb y Brifysgol i’r Coronafeirws (COVID-19) sy’n datblygu. Fel y bydd rhai ohonoch yn ei wybod, mae grŵp wrth gefn sy’n cwmpasu’r Brifysgol wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd ers i’r broblem godi gyntaf ym mis Rhagfyr.

Mae’n bwysig ein bod yn cael y cydbwysedd cywir rhwng gorymateb a gorffwys ar ein rhwyfau. Fodd bynnag, o ystyried pa mor gyflym mae’r sefyllfa’n datblygu, a’r nifer cynyddol o achosion ar draws y byd, rydym wedi datgan bod y Coronafeirws yn ddigwyddiad difrifol i’r Brifysgol.

Yn gynharach heddiw, fe wnes i gadeirio cyfarfod cyntaf grŵp newydd lefel uchel sy’n cynnwys pob rhan o’r Brifysgol. Rydw i wedi dod â’r grŵp ynghyd i gydlynu ein hymateb. Byddwn yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn mynd ati’n ddiymdroi i gymryd camau pendant pan fo angen. Byddwch yn gwerthfawrogi bod rhaid i ni drin y digwyddiadau hyn yn gwbl o ddifrif heb achosi pryder diangen.

Hoffwn sicrhau pawb mai diogelwch ein myfyrwyr, staff a chymuned ehangach Caerdydd sydd bwysicaf i ni. O ystyried hynny, dylem fynd ati i barhau i fyw ein bywydau bob dydd drwy ddilyn y cyngor a gawn gan yr awdurdodau iechyd cyhoeddus.

Mae’n bwysig ein bod yn parhau i fod yn gymuned oddefgar, ystyriol ac agored sy’n cynnig cefnogaeth i bawb.

Fory, bydd cydweithwyr y Brifysgol yn cynnal cyfarfodydd gyda Chyngor Caerdydd a chyrff pwysig eraill ar draws y ddinas, felly rydym i gyd yn cydweithio er lles iechyd y cyhoedd.

Os cawn ein cynghori ar unrhyw adeg i gymryd camau pellach, dyna’n union y byddwn yn ei wneud.

Mae’r Brifysgol eisoes wedi ystyried beth fyddai’n digwydd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd pe byddem yn gorfod cymryd camau o’r fath, gan gynnwys dulliau amgen o weithio ac addysgu.

Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac rwyf yn ddiolchgar dros ben i’r cydweithwyr hynny ym mhob rhan o’r Brifysgol gan gynnwys y rhai o’r Ysgolion, Ystadau, y Gofrestrfa, TG. Adnoddau Dynol, Cyllid a Chyfathrebu sy’n ein paratoi ar gyfer parhau i weithio a dysgu wrth i‘r sefyllfa ddatblygu.

Rydym yn diweddaru ein canllawiau hefyd, ac mae’r rhain ar gael ar fewnrwyd y staff a’r myfyrwyr.

Mae teithio yn broblem amlwg sy’n peri pryder i ni, ac fe wnaeth ein grŵp lefel uchel rai penderfyniadau pwysig heddiw. Rydym yn gymuned ryngwladol o staff a myfyrwyr sydd wedi arfer gwneud ein gwaith mewn sawl man yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn amlwg, gyda gwyliau’r Pasg yn agosáu, bydd llawer o bobl yn paratoi eu cynlluniau teithio personol.

Fodd bynnag, er mwyn cadw ein myfyrwyr a’n staff yn ddiogel mewn perthynas â’u gwaith yn y Brifysgol, rydym wedi penderfynu:

  • Canslo neu ohirio holl deithiau maes a lleoliadau gwaith myfyrwyr y tu allan i’r DU nes bydd hysbysiad pellach;
  • Cysylltu â myfyrwyr sydd ar leoliadau gwaith rhyngwladol ar hyn o bryd a chynnig cefnogaeth iddynt os ydynt am ddod adref;
  • Gohirio unrhyw deithio sy’n ymwneud â gwaith gan staff y tu allan i’r DU nes bydd hysbysiad pellach, oni bai bod hynny’n hanfodol. Dylai’r rhai sydd o’r farn bod rhaid iddynt deithio gyflwyno ffurflen asesu risg i’w Pennaeth Ysgol Rhag Is-Ganghellor y Coleg cyn gwneud unrhyw drefniadau pendant;
  • Dylai’r rhai sy’n trefnu cynadleddau a digwyddiadau mawr, yn enwedig rhai fydd yn denu cyfran sylweddol o ymwelwyr rhyngwladol, ystyried trefniadau amgen.

Gwyddwn y bydd hyn yn peri siom i lawer o fyfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith. Rydym yn cydweithio’n agos ag Ysgolion a’n Canolfan Cyfleoedd Byd-eang i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig cyfleoedd amgen i’n myfyrwyr, ac rydym yn cyfathrebu â nhw ar hyn o bryd.

Ein nod yw cefnogi ein holl staff a’n myfyrwyr sydd eisoes dramor. O ran y rheiny sy’n dychwelyd ar sail cyngor y Llywodraeth neu’r Brifysgol, byddwn yn gwneud yn siŵr na fydd hyn yn peri unrhyw anfantais ariannol.

Rydym yn diweddaru ein canllawiau ar y fewnrwyd.

Yn olaf, rwyf yn ymwybodol bod rhai staff a myfyrwyr wedi mynegi pryderon ynghylch mynd i ddarlithoedd neu ddigwyddiadau eraill lle bydd llawer o bobl yn ymgynnull. Gallaf eich sicrhau ein bod yn ystyried digwyddiadau pwysig yng nghalendr y Brifysgol a byddwn yn cynnig cyngor cyn gynted ag y bo modd.

Fel y gwyddoch, mae cryn ansicrwydd ynghylch sut bydd yr achos yn datblygu yn ôl pob tebyg, ond byddwn yn gwneud ein penderfyniadau yn unol â chyngor swyddogol Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru/Lloegr.

Rwyf yn sylweddoli y bydd gan lawer ohonoch ragor o gwestiynau. Rydym yn Brifysgol fawr sy’n cynnwys llawer iawn o wahanol rannau, felly rydym wedi creu pwynt cysylltu canolog ar gyfer yr holl ymholiadau. Os oes gennych gwestiwn penodol, dylech ebostio: coronavirusadvice@caerdydd.ac.uk..

Bydd eich ymholiad yn ein galluogi i roi’r cyngor cywir i chi. Ar ben hynny, rydym yn adolygu’r wybodaeth sydd ar fewnrwyd y staff a’r myfyrwyr yn gyson, ac yn ychwanegu ati, felly fe’ch cynghorir i gadw golwg arni’n rheolaidd.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau pwysig.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor