Ewch i’r prif gynnwys

Cynnig UCEA ynghylch trefniadau cytundebol; llwyth gwaith ac iechyd meddwl; a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyflog ethnigrwydd - 5/2/20

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae’r camau gweithredu ar lefel y sector yn cynnwys:

Ar gyfer trefniadau cytundebol, gweithgor undebau llafur/cyflogwyr newydd i edrych ar y cofnod staff cenedlaethol blynyddol (HESA), gan edrych er enghraifft ar dueddiadau mewn cyflogaeth 'dim oriau' a 'thâl fesul awr', a threfniadau cytundebol ar draws nodweddion gwarchodedig. Bydd y grŵp yn llunio adroddiad o'r dadansoddiad a'r canfyddiadau.

Ar gyfer llwyth gwaith ac iechyd meddwl, undebau llafur/cyflogwyr yn gweithio i ddatblygu'r adnoddau Straen a Llesiant Meddyliol cenedlaethol ymhellach drwy ein Fforwm Iechyd a Diogelwch Addysg Uwch sefydledig, Undebau Llafur, Universities UK ac UCEA yn ymwneud â datblygu mentrau ar lefel y sector i ymdrin â phroblemau iechyd meddwl staff.

Ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, undebau llafur a chyflogwyr i ddatblygu 'rhestr wirio' benodol i addysg uwch o awgrymiadau ar gyfer ymdrin â rhwystrau a mesurau i alluogi cynnydd gyrfa i fenywod a chynrychiolaeth gytbwys mewn rolau lle mae rhywedd yn ddylanwadol.

Caiff y data cyffredinol ei gasglu a'i ddadansoddi hefyd.

O ran cyflog ethnigrwydd, undebau llafur a chyflogwyr i archwilio ac adrodd ar ddata cenedlaethol ar y bwlch cyflog ethnigrwydd ac ymchwilio'r math o gamau gweithredu ac ymyriadau a wneir gan gyflogwyr. Y ddau hefyd i ymrwymo i annog cydweithwyr i ddatgelu nodweddion gwarchodedig.

Disgwyliadau ar gyfer camau gweithredu ar lefel sefydliad

Gan fod y materion hyn i gyd yn bethau i sefydliadau unigol ymdrin â nhw yn eu cyd-destun penodol eu hunain a gan gydnabod bod llawer o sefydliadau eisoes wedi gwneud llawer o'r gwaith hwn, yn aml wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth gyda'u staff ac undebau llafur, mae UCEA yn sefydlu set o ddisgwyliadau ac argymhellion eang i sefydliadau fel a ganlyn.

Ar gyfer trefniadau cytundebol

  • Yn gyffredinol, cytundebau amhenodol yw ffurf y berthynas gyflogaeth rhwng cyflogwyr a chyflogeion, gyda threfniadau cytundebol dros dro ac achlysurol yn cael eu defnyddio pan fydd rhesymau dilys.
  • Caiff cyflogeion ar gytundebau tymor penodol neu a delir fesul awr, fel sy'n briodol i hyd eu cyflogaeth, fanteisio ar drefniadau datblygu staff, hyfforddiant, gwerthuso a chyngor gyrfaoedd.
  • Ceir adolygiad ar lefel y sefydliad o bolisïau a gweithdrefnau ar gyfer cyflogeion sy’n gweithio ar drefniadau tymor penodol ac achlysurol.
  • Lle cânt eu defnyddio, archwilio y gellir cyfyngu neu leihau cytundebau 'dim oriau'.  Hefyd, proses sy'n galluogi unigolion ar gontractau o'r fath i wneud cais am drefniant amgen sy'n cynnig mwy o sicrwydd oriau.
  • Trefniadau i gyflogeion allu mynegi pryder os ydynt yn credu nad yw eu cyflogaeth fesul awr yn darparu telerau teg am y gwaith sy'n ddisgwyliedig ganddynt.
  • Eglurder i fyfyrwyr doethurol a gyflogir o ran y gwaith sy'n ddisgwyliedig a'r gydnabyddiaeth amdano.
  • Lle bo'n berthnasol, cofrestru ar y Concordat ymchwilwyr newydd a datblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu ei egwyddorion cyflogaeth.
  • Trefniadau i adnabod staff sydd ar gytundeb/au tymor penodol am dros 4 blynedd ac ystyried eu trosi'n gytundebau amhenodol ac osgoi cytundebau tymor penodol olynol.

Ar gyfer llwyth gwaith ac iechyd meddwl 

  • Sicrhau systemau i alluogi unigolion i godi pryderon am ofynion eu llwyth gwaith ac archwilio'r rhain yn deg.
  • Datblygu gweithdrefnau i sicrhau ar lefel y sefydliad bod cyflogeion yn wynebu gofynion gwaith cyraeddadwy ar gyfer disgwyliadau eu rôl a'u lefel o ddisgresiwn proffesiynol.
  • Gweithio gyda chynrychiolwyr staff ac eraill i archwilio diwylliannau ac ymddygiadau a allai gymhlethu pwysau yn y gweithle.

Ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyflog ethnigrwydd

  • Ymrwymiad i bwysigrwydd deall ac ymdrin ag ystyriaethau sylfaenol y bwlch cyflog rhwng y rhywiau neu ddosbarthiad rhywedd anwastad.
  • Gweithio gyda'u hundebau llafur ar eu cynlluniau gweithredu, sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd a sefydlu prosesau monitro ac adolygu.
  • Cynnal archwiliad cyflog cyfartal rheolaidd i gadarnhau nad oes anghydraddoldebau cyflog, efallai fel ffactor cyfrannol i’w bylchau cyflog rhwng y rhywiau.
  • Sefydliadau addysg uwch i ymgysylltu â changhennau undebau llafur yn briodol i ddarparu ymddiriedaeth yn eu prosesau archwilio cyflog.
  • Blaenoriaethu gwaith i archwilio eu dosbarthiad Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithlu a data ar gyflog ethnigrwydd, a datblygu cynlluniau i ymdrin ag unrhyw broblemau.

I grynhoi, mae'r cynigion hyn yn arwyddocaol ac yn sylweddol oherwydd eu bod yn... 

  • dangos cefnogaeth ac ymrwymiad digynsail gan bob un o'r 140 sefydliad addysg uwch i ymdrin â'r ystyriaethau cyflogaeth a godwyd yn yr anghydfod;
  • cadarnhau ymrwymiad cyflogwyr addysg uwch i ddarparu amgylcheddau gwaith lle mae pawb yn teimlo eu gwerth, yn cael eu trin yn deg ac â pharch;
  • dangos bod UCEA yn cael y cyfle i fynd ymhellach nag erioed o'r blaen fel corff cenedlaethol yn cynrychioli cyflogwyr;
  • gosod cyfres o ddisgwyliadau clir ar sefydliadau addysg uwch unigol, yn cynnwys pwysigrwydd gwrando ar eu staff a chynrychiolwyr undebau llafur;
  • cynnig man cychwyn i undebau llafur weithio'n adeiladol mewn sefydliadau ar faterion o'r pwysigrwydd mwyaf i'w haelodau ym mhob sefydliad;
  • darparu ar gyfer archwilio data ar lefel genedlaethol i edrych ar gynnydd y sector, a hefyd cynnal cyfrifoldebau sefydliadau addysg uwch unigol i ddatblygu camau gweithredu sy'n berthnasol i'w hamgylchiadau penodol.

Edrych yn ôl

Dechreuodd trafodaethau cenedlaethol 2019-20 gyda'r holl undebau llafur (UCU, UNISON, Unite, GMB, EIS) ym mis Mawrth 2019. Mae UCEA wedi gwrando'n ofalus ar yr undebau llafur ac wedi ymgysylltu â phob un o'r 147 sefydliad addysg uwch cyfranogol drwy gydol y broses. Ar 26 Tachwedd 2019 dechreuodd UCEA ac UCU ar ddau fis o ddialog adeiladol â'r nod o geisio datrysiad.

Ar 27 Ionawr 2020 cyflwynodd UCEA y gyfres hon o gynigion cadarnhaol i bob un o'r pum undeb llafur a gydnabyddir yn nhrefniadau cenedlaethol JNCHES. Mae UCEA wedi derbyn cefnogaeth lawn y sefydliadau wrth ymdrin â'r materion pwysig hyn ynghylch cyflogaeth mewn prifysgolion.

Edrych i’r dyfodol

Y cynigion helaeth hyn, ochr yn ochr â'r codiadau cyflog sy'n weithredol o fis Awst 2019, yw'r cynnig gorau gan UCEA ar ran y 147 sefydliad addysg uwch sydd wedi cymryd rhan yng nghylch cyd-drafod cyfunol 2019-20 JNCHES. Mae'r cynigion yn ategu'r cynnydd cyflog o 1.8% a wnaed yn erbyn cyfradd chwyddiant CPIH o 1.7% ym mis Awst 2019.

Mae'r cyflogwyr hyn i gyd yn gobeithio'n fawr fod y cynnig diwygiedig yn braenaru'r tir ar gyfer cwblhau cylch JNCHES 2019-20 yn gadarnhaol, gan alluogi ymgysylltu adeiladol gan gyflogwyr ac undebau llafur yng nghylch 20-21, y disgwylir iddo ddechrau ym mis Mawrth.