Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau'r Ecosystem

Mae ymchwil ynglŷn â gwasanaethau'r ecosystem yn Llyn Brianne dan arweiniad Asesiad yr Ecosystem Genedlaethol. Fe wnaethon ni chwarae rhan flaenllaw yn yr asesiad cynhwysfawr hwn.

Mae'r nentydd yn cynnig nifer o wasanaethau ecosystem yn cynnwys rheoli ansawdd y dŵr a chynnal pysgod.

Conifer trees, some cut

Ymchwil diweddar

Menter 'Duress'

Amrywiaeth afonydd yr uwchdiroedd ar gyfer cynaladwyedd gwasanaethau'r ecosystem

Mae 'Duress' yn rhan o fenter sylweddol y Cyngor Ymchwil i asesu rôl bioamrywiaeth yn darparu'r gwasanaethau ecosystem allweddol y mae cymdeithas yn ddibynnol arnynt. Wedi'i lansio yn 2012, mae'r prosiect yn cyfrannu'n sylweddol i'n dealltwriaeth o sut mae bioamrywiaeth afonydd yn cynnal gwasanaethau'r ecosystem mewn byd sy'n newid.

Archwiliodd Duress sut mae organebau a gweithrediadau'r ecosystem yn cynnal gwasanaethau ecosystemau afonydd fel rheoli ansawdd y dŵr, sicrhau cyflenwad o bysgod ar gyfer pysgotwyr neu adar yr afonydd sy'n fioamrywiaeth a werthfawrogwyd yn ddiwylliannol. Dyma wybodaeth holl bwysig oherwydd bod y gwasanaethau hyn dan fygythiad o ganlyniad i newid hinsawdd a defnydd tir, gyda chostau economaidd a chymdeithasol posibl sylweddol.

Asesiad yr Ecosystem Genedlaethol

Dadansoddiad cyntaf amgylchedd naturiol y DU o ran y buddion mae'n eu cynnig i gymdeithas a ffyniant economaidd parhaus

Ar ôl blynyddoedd o ymchwilio ecosystemau'r nentydd, (gyda llawer o'r gwaith wedi'i leoli o gwmpas Llyn Brianne), arweiniodd yr Athro Steve Ormerod adrannau dŵr croyw Asesiad yr Ecosystem Genedlaethol ar gyfer Defra a'r llywodraethau datganoledig.