Ewch i’r prif gynnwys

Bioamrywiaeth

Mae'r gwaith ymchwil yn Llyn Brianne yn cwmpasu amrywiaeth o grwpiau o organebau, o algâu a bryoffytau i greaduriaid di-asgwrn-cefn, pysgod ac adar. Mae ein dulliau'n amrywio o dacsonomeg i fioleg foleciwlaidd.

Dipper with food items in beak

Ymchwil diweddar

Two people taing water measurements from a experimental stream

DNA Amgylcheddol

Deall perthnasedd ecolegol eDNA mewn ecosystemau dŵr croyw rhedegog

Yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, mae biolegwyr wedi dod o hyd i'r DNA sydd yn yr amgylchedd o ganlyniad i organebau'n diosg eu celloedd. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu gyda'r gwaith o fonitro rhywogaethau sydd mewn perygl neu sy'n ymosodol.  Rydym yn cydweithio gyda Phrifysgolion Bangor a Birmingham a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg i ddeall sut mae'r ffynonellau eDNA hyn yn perthyn i fioamrywiaeth fyw, pa mor hir y mae eDNA yn parhau yn yr amgylchedd a'i weithredoedd ecolegol cysylltiedig mewn afonydd.

Stream invertebrate

Creaduriaid di-asgwrn-cefn dyfrol

Geneteg y boblogaeth a gwydnwch demograffig tri chreadur di-asgwrn-cefn dyfrol

Wedi'i gwblhau yn 2016, roedd traethawd hir PhD Hannah MacDonald yn canolbwyntio ar dri chreadur di-asgwrn-cefn dyfrol cyffredin. Gan ddefnyddio dilyniannu cenhedlaeth nesaf, datblygwyd marcwyr 'microsatellite' ar gyfer Isoperla grammatica, Amphinemura sulcicollis a Baetis rhodani i alluogi archwiliadau geneteg cadwraeth.  Rydym yn annog mwy o ddefnydd o'r offer genynnol hwn i asesu effeithiau newid amgylcheddol drwy archwilio strwythur genynnol, gwasgariad a gwydnwch demograffig.