Ewch i’r prif gynnwys

Newid byd-eang

Cynhyrchodd Llyn Brianne rhywfaint o ddata cyntaf y byd ynglŷn ag effeithiau newid hinsawdd ar raddfa fawr ar ecosystemau nentydd.

Mae newidiadau mewn sefydlogrwydd cymunedau'r nentydd a difodiant lleol oll yn gysylltiedig â newid hinsawdd byd-eang.

Stream with snow on banks and people collecting biological samples

Prosiectau

Sychder a rhywogaethau eogiaid

Dylanwad sychder ar frithyllod ac eogiaid mewn afonydd Cymreig

Dechreuodd Ifan Jams ei PhD yn 2013 i archwilio sychder, effaith tebygol newid hinsawdd. Cafodd fesocosmau nentydd yr ucheldiroedd eu trin i efelychu cyflyrau sychder i archwilio'r effaith ar greaduriaid di-asgwrn-cefn y nentydd. Mae'r organebau hyn yn ffynonellau bwyd pwysig ar gyfer brithyllod ac eogiaid ifanc.

MARS UE

Rheoli ecosystemau dyfrol ac adnoddau dŵr dan bwysau niferus

Mae MARS yn brosiect €9 miliwn ag ariannwyd gan yr UE sy'n archwilio sut mae straenachoswyr niferus yn cael effaith ar afonydd, llynnoedd a morydau. Yn y gorffennol, roedd afonydd a llynnoedd yn cael eu heffeithio gan straenachoswyr unigol fel llygredd organig neu asideiddio. Cafodd y rhain eu disodli gan gyfuniad cymhleth o straenachoswyr o ganlyniad i ddefnydd tir trefol ac amaethyddol, generadiad pŵer dŵr a newid hinsawdd.

BICCO-Net

Effeithiau bioamrywiaeth ar y rhwydwaith arsylliad newid hinsawdd

Roedd BICCO-Net yn asesiad cynhwysfawr o effaith newid hinsawdd ar fioamrywiaeth y DU a chafodd ei gwblhau yn 2015. Roedd yn brosiect cydweithredol dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Brydeinig ar gyfer Adaryddiaeth.

PRINCE

Paratoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd ar ecosystemau dŵr croyw

Comisiynwyd PRINCE gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Natur Lloegr a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Cwblhawyd ef yn 2007.