Rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n gyfeillgar, yn cynorthwyo ac yn ymateb i'ch anghenion.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid yn rhan annatod o Wasanaeth Llyfrgell y Brifysgol a rydym ni'n falch ein bod yn meddu ar y safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid. Rydym ni'n ymrwymo i wella gwasanaeth cwsmeriaid yn barhaus.
Addewid Gwasanaeth y Llyfrgelloedd (2025)
Mae ein haddewid gwasanaeth llyfrgell yn nodi'n fanylach yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y llyfrgelloedd.
Byddwn ni'n:
- Cynnig llyfrgelloedd a mannau astudio croesawgar, cynhwysol, diogel, cyfforddus a hygyrch.
- Cynnig adnoddau digidol ac wedi’u hargraffu o ansawdd uchel i fodloni eich anghenion dysgu, addysgu ac ymchwil, a gwneud yn siŵr eich bod yn gallu eu defnyddio mor hawdd â phosibl.
- Gwneud yn siŵr bod ein staff yn gyfeillgar, gwybodus, wedi eu hyfforddi'n dda, ac yn trin ein defnyddwyr â chwrteisi a pharch.
- Rhoi'r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ddod o hyd i adnoddau’r llyfrgell a’r archif, a’u defnyddio, yn effeithiol, yn annibynnol a chyda gonestrwydd academaidd.
- Mynd ati i ofyn am eich adborth, gwrando arno a'i werthfawrogi, gan ddefnyddio hwn yn brif ffocws wrth i ni ystyried gwelliannau i wasanaethau’r llyfrgelloedd ac archifau.
- Cyfathrebu â chi mewn ffordd glir, onest ac amserol drwy'r sianel fwyaf priodol i chi lle bo modd.
- Cyfathrebu â phartneriaid ar draws y gwasanaeth llyfrgelloedd, y brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, GIG Cymru a'r gymuned ehangach er mwyn datblygu a gwella ein gwasanaethau.
Rydym ni'n annog ac yn croesawu eich adborth gan y bydd hyn ein galluogi ni i wella. Gallwch rannu eich adborth drwy ymweld â'n llyfrgelloedd, neu drwy gysylltu â ni.

Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid
Rydym yn falch o fod wedi dal y safon Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid ers 2013. Ym mis Mai 2024, dyfarnwyd 19 ‘Compliance Plus’ ar ddeg i ni. Gyda chefnogaeth gan Swyddfa’r Cabinet, mae’r Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn cydnabod sefydliadau sydd wir yn rhoi eu cwsmeriaid wrth wraidd yr hyn y maen nhw’n ei wneud.
Rydym yn croesawu eich adborth am y gwasanaeth llyfrgell.