Ewch i’r prif gynnwys

Sicrhau fframwaith tecach ar gyfer pwerau datganoledig yng Nghymru

Yn dilyn refferendwm 2011 ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cynhaliodd Canolfan Llywodraethiant Cymru, dan arweiniad yr Athro Richard Wyn Jones, ddadansoddiad o’r drefn gyfansoddiadol, gan nodi llwybrau gwell ar gyfer gweithredu pwerau datganoledig.

Senedd building

Rhoddodd refferendwm datganoli 2011 bwerau deddfu newydd i Gymru a newidiodd trefn gyfansoddiadol y DU. Fodd bynnag, cynhaliodd ymchwilwyr Canolfan Llywodraethiant Cymru ddadansoddiad o’r drefn gyfansoddiadol yng Nghymru, a darganfod pa mor ansefydlog oedd setliad datganoli Cymru.

Cyflwynodd ymchwilwyr Canolfan Llywodraethiant Cymru dystiolaeth hanfodol a oedd yn sail i'r ddadl dros symud Cymru i fodel datganoli 'cadw pwerau'. Tynnodd y Ganolfan sylw at feysydd problemus ym Bil Cymru Drafft, gan roi argymhellion hollbwysig ynglŷn â threfniadau ariannu datganoledig.

Undeb sy’n Newid

Yn 2012, sefydlwyd prosiect 'UK’s Changing Union' (UKCU) fel menter ar y cyd rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru, Cymru Yfory and phrif felin drafod annibynnol Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig.

Cafodd UKCU ddylanwad ar waith Comisiwn Silk, comisiwn annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i wneud argymhellion ar y trefniadau cyfansoddiadol ac ariannol i Gymru. Roedd UKCU hefyd yn annog ac yn hwyluso cyfranogiad ehangach gan gymdeithas sifil ym mhroses y Comisiwn, ac yn cynhyrchu ymchwil, tystiolaeth ac argymhellion ar gyfer strwythur datganoli yng Nghymru yn y dyfodol.

Bil Cymru Drafft

Rhoddodd Llywodraeth y DU argymhellion Comisiwn Silk ar waith drwy Ddeddf Cymru 2014, a oedd yn canolbwyntio ar gyllid, a Deddf Cymru 2017, a newidiodd y setliad datganoli.

Er bod yr egwyddor o 'gadw pwerau' wedi'i derbyn, dehonglodd y Bil Cymru Drafft cychwynnol oblygiadau cynnal un awdurdodaeth gyfreithiol (Cymru a Lloegr) mewn modd arbennig o gyfyngol. Cynhyrchodd Canolfan Llywodraethiant Cymru, mewn partneriaeth â’r Uned Gyfansoddiadol yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ddadansoddiadau annibynnol o'r Bil Drafft a'r Papur Gwyn blaenorol.

Y Fframwaith Cyllidol

Roedd gweithredu'r ddwy Ddeddf yn dibynnu ar gytundeb rhwng Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol. Modelodd ymchwilwyr Canolfan Llywodraethiant Cymru effeithiau sawl fformiwla ar gyfer datganoli cyllidol a mesurau i ddiogelu isafswm lefel ariannu i Gymru. Roedd y dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar sut y dylid addasu grant bloc Llywodraeth Cymru ar ôl datganoli trethi.

Effeithiau gwleidyddol ac o ran polisïau

Roedd ymchwil y Ganolfan yn ddylanwadol i randdeiliaid gwleidyddol allweddol yng Nghymru a'r DU ac yn sicrhau bod setliad datganoli Cymru yn fwy cynaliadwy a sefydlog.

Cyfrannodd [yr ymchwil] at newidiadau sylweddol i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig a llywodraethiant Cymru [gan arwain at] newid a gwella statws dinasyddiaeth i bob preswylydd yng Nghymru, a mwy o gwmpas a statws i'w sefydliadau llywodraeth.
Rob Humphreys CBE Aelod o’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk)

Cafodd yr ymchwil effaith mewn tri maes penodol:

    Dylanwadu ar argymhellion y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (2014)

    Yn 2014, argymhellodd Comisiwn Silk berthynas gyfansoddiadol newydd rhwng Cymru a'r DU, gyda phwerau deddfu i’r lefel ddatganoledig. Nodwyd bod ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru, drwy brosiect UKCU, wedi cael "effaith ddiamheuol, clir, amlwg a mesuradwy" ar yr adroddiad.

    Mae argymhelliad UKCU y dylai Cymru symud at fodel cadw pwerau wedi’i adlewyrchu yng nghasgliadau'r adroddiad. Roedd Syr Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn, yn gweld Canolfan Llywodraethiant Cymru fel "cynghorwyr academaidd arbenigol di-dâl" i brofi a chael adborth ar syniadau'r Comisiwn a'r casgliadau a oedd yn dod i’r amlwg wrth iddynt ddatblygu. Roedd hyn yn helpu i sicrhau bod consensws trawsbleidiol ar gyfer yr argymhellion.

    Cryfhau Deddf Cymru 2017 (2015-2017)

    Ar ôl i Gomisiwn Silk gael ei gwblhau, adolygodd Llywodraeth y DU setliad datganoli Cymru a chyhoeddodd Bil Cymru Drafft ym mis Hydref 2015. Gwnaeth ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru "daflu goleuni newydd ar yr agweddau mwyaf problemus ar y Bil Drafft, ac gwneud achos da i Lywodraeth y DU dros ailystyried ei dull gweithredu" yn ôl Glynne Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers 2013.

    O ganlyniad i’r pryderon sylweddol a godwyd gan yr ymchwil, gwnaed penderfyniad anarferol iawn i oedi proses y Bil drafft. Roedd y dystiolaeth ddiduedd a gyflwynwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn golygu bod modd cael dylanwad go iawn ar adrannau perthnasol Llywodraeth y DU a chafodd agweddau problemus ar y Bil eu hailystyried.

    Roedd y Bil, a basiwyd fel Deddf Cymru 2017, "yn welliant amlwg ar Fil drafft 2015". Mae'n cynrychioli'r “tro cyntaf i farn allanol, arbenigol gael effaith mor sylweddol ar setliad datganoli Cymru".

    Sicrhau setliad ariannol teg i Gymru (2016-2017)

    Roedd gweithredu Deddf Cymru 2017 yn amodol ar gytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol. Yn ystod trafodaethau'r fframwaith cyllidol, rhoddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru gyngor drwy adroddiadau ffurfiol, tystiolaeth mewn sesiynau Pwyllgor, a "chyfarfodydd a thrafodaethau anffurfiol rheolaidd i lywio'r cynlluniau ar gyfer y fframwaith cyllidol newydd a sut y gellid addasu grant bloc Llywodraeth Cymru ar ôl datganoli trethi".

    Roedd y cytundeb cyllidol terfynol (Rhagfyr 2016) yn cynnwys argymhellion a dynnwyd o'r gwaith hwnnw.

Legs of business people sat in a circle

... Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi bod yn rhan annatod o’r datblygiadau diweddar yn setliad datganoli Cymru, gan agor y drws i ddatganoli trethi yng Nghymru a sefydlu trefniadau ariannu teg, cynaliadwy a chydlynol ar draws holl gyfrifoldebau treth a gwariant Llywodraeth Cymru.
Glynne Jones Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Meet the team

Key contacts

Yr Athro Richard Wyn Jones

Yr Athro Richard Wyn Jones

Siarad Cymraeg
wynjonesr@cardiff.ac.uk
+44(0)29 2087 5448
Dr Ed Poole

Dr Ed Poole

Siarad Cymraeg
pooleeg@cardiff.ac.uk
+44 (0)29 2087 5574
Guto Ifan

Guto Ifan

Siarad Cymraeg
ifandg@cardiff.ac.uk
+44(0)29 2087 4626

Selected publications