Ewch i’r prif gynnwys

Diogelu pobl sy’n agored i niwed yn well yn y ddalfa

Mae ymchwil y Dr Roxanna Dehaghani i ddiogelu trwy oedolyn priodol wedi arwain at ddiwygio’r gyfraith ac adolygu safonau.

Bydd oedolyn priodol yn diogelu buddiannau, hawliau a lles pobl sy'n agored i niwed yn y ddalfa pan fo tyb eu bod wedi troseddu. Ei rôl yw mynnu i’r heddlu drin a thrafod y sawl sydd yn y ddalfa mewn modd teg a chyfiawn a'i alluogi i gymryd rhan yn effeithiol.

Person in handcuffs

Ymhlith 297,000 o oedolion bregus wedi’u holi yn y ddalfa yn 2015, dim ond â 3% o achosion roedd oedolyn priodol yn ymwneud. Felly, bu tua 288,000 o gyfweliadau yn y ddalfa heb y diogelu priodol.

Mae’r Dr Roxanna Dehaghani yn ddarlithydd yn y gyfraith ac, ar ôl gweld nad oedd cynllun yr oedolion priodol yn cael ei ddefnyddio yn aml yn y DU, aeth ati i wella’r gwasanaeth er lles amrywiaeth o bobl megis heddluoedd, y rhwydwaith sy’n gweithredu’r cynllun a’r bobl fregus sy’n elwa arno.

PACE Code C

Côd C Deddf Heddluoedd a Thystiolaeth Droseddol 1984 sydd wrth wraidd yr holl waith ynghylch oedolyn priodol. Mae’n disgrifio hawliau pobl o dan amheuaeth yn y ddalfa ac yn datgan y dylai oedolyn priodol fod wrth law er lles pawb sy’n agored i niwed megis rhywun ac arno afiechyd y meddwl, anabledd dysgu, anaf i’r ymennydd neu un o gyflyrau sbectrwm awtistiaeth.

Heb gymorth oedolyn priodol, gallai fod yn anodd i’r sawl sydd o dan amheuaeth ddeall ei hawliau, osgoi dryswch, rhoi gwybodaeth gywir, adnabod cwestiynau arweiniol neu wrthsefyll ymdrechion i’w lywio.

Datgelodd ymchwil Dr Dehaghani, a ddechreuodd yn 2017, ddiffygion Côd C megis diffinio ac adnabod rhywun a allai fod yn fregus neu’n agored i niwed a diffyg cymhelliant ynghylch gweithredu.

Cydweithio â'r heddluoedd

Cynhaliodd Dr Dehaghani yr ymchwil drefnus gyntaf i’r rhesymau dros fethu â gwahodd oedolion priodol i gyfweliadau yn y ddalfa.  

Ar ôl gwylio a holi swyddogion dau heddlu yn y ddalfa dros chwe mis, daeth Dr Dehaghani i’r casgliadau canlynol:

  • doedd Côd C ddim wedi diffinio sut na pham y gallai rhywun o dan amheuaeth fod yn agored i niwed.
  • yn aml, fyddai neb yn ystyried effeithiau ehangach bod yn y ddalfa ac o dan amheuaeth o fod yn droseddwr wrth asesu unigolyn.
  • dywedodd swyddogion y bydden nhw’n penderfynu a oedd rhywun yn agored i niwed yn ôl tyb fel arfer, heb fod yn hyderus eu barn weithiau.

Cydweithio â Rhwydwaith Cenedlaethol yr Oedolion Priodol

Gwahoddodd y rhwydwaith, sy’n gyfrifol am gydlynu’r cynllun a’i roi ar gael ledled y DU, y Dr Dehaghani i baratoi’r dystiolaeth gyntaf o gyd-destun y diogelu a’i rôl ynghylch datblygu cymorth effeithiol.

Rhoes Dehaghani ganfyddiadau a syniadau newydd ynghylch sut mae adnabod pobl sy’n agored i niwed trwy ddeddf yn ogystal â nodi prif swyddogaethau oedolyn priodol yn ôl y gyfraith ac ar waith.

Defnyddiodd y rhwydwaith ymchwil Dr Dehaghani wrth ddiwygio ei safonau cenedlaethol yn 2018. Mae’r safonau’n rhoi canllawiau eglur a’r arferion gorau ynghylch bod o dan oruchwyliaeth oedolyn priodol yn ogystal ag ategu proses llunio dull hunanasesu i’r rhai sy’n comisiynu ac yn cynnig gwasanaethau.

Cydweithio â'r Swyddfa Gartref

Dehaghani oedd yr unig academydd cyfreithiol ymhlith aelodau Gweithgor y Swyddfa Gartref dros Oedolion sy'n Agored i Niwed a roes argymhellion i ddiwygio Côd C ar gyfer ymgynghori cyhoeddus fis Hydref 2017.

Adlewyrchwyd argymhellion Dehaghani yn fersiwn terfynol y côd diwygiedig a gyhoeddwyd yn 2018.

Pam mae'r ymchwil yn bwysig?

Mae Côd C yn datgan y dylai oedolion sy’n agored i niwed a phlant fod gydag oedolyn priodol os ydyn nhw o dan amheuaeth yn y ddalfa. Ymhlith tua 850,000 o oedolion o dan amheuaeth a fydd yn y ddalfa bob blwyddyn, bydd anhwylder meddyliol ar 39%, gan gynnwys afiechyd y meddwl ac anableddau dysgu.

Yn ôl ymchwil annibynnol, roedd oedolion bregus oedd yn y ddalfa gydag oedolyn priodol yn teimlo’n fwy diogel rhag bychanu, bygwth, ofn, aflonyddu, bwlio ac ynysu. Mae’r cynllun yn arwain at ragor o onestrwydd, tystiolaeth well a llai o beryglon y bydd camweddau cyfiawnder, hefyd.

Mae ymchwil Dr Dehaghani wedi bod o les i bobl fregus y bydd angen oedolyn priodol arnyn nhw, heddweision sy’n defnyddio’r cynllun, a’r rhwydwaith sy’n ei gydlynu ac yn ei weithredu. Yn ogystal â dylanwadu ar gyfraith Cymru a Lloegr, mae’i gwaith wedi arwain at greu safonau newydd i wella ansawdd ac argaeledd gwasanaeth yr oedolion priodol.

Ystadegau allweddol

Mae'r safonau wedi’u defnyddio'n aml o ran oedolion priodol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw.  Yn ôl arolwg yn 2019:

  • Roedd 91% o'r ymatebwyr wedi defnyddio'r safonau ac roedd 90% o’r farn eu bod yn effeithiol.
  • Roedd y rhai oedd wedi bod yn aelodau o’r rhwydwaith am lai na 12 mis o’r farn mai’r safonau sydd fwyaf effeithiol ymhlith ei amryw nwyddau a gwasanaethau.
  • Roedd 62% o'r ymatebwyr wedi defnyddio'r dull hunanasesu, ac roedd 96% o’r rheiny o’r farn ei fod yn effeithiol.

Meet the team

Key contacts