Ewch i’r prif gynnwys

Ar ôl i chi wneud cais

Dysgwch beth sy’n digwydd unwaith rydych yn gwneud cais i’n system ar-lein.

Cynnydd cais

Cewch wybod am gynnydd eich cais trwy negeseuon e-bost a anfonir at eich cyfrif defnyddiwr a’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwch i fewngofnodi. Gallwch weld unrhyw negeseuon e-bost a dderbyniwyd yn eich cyfrif defnyddiwr drwy glicio ar y ddolen 'Cyfathrebu' yn yr hafan ymgeiswyr.

Llunio rhestr fer

Mae'r broses llunio rhestr fer yn dechrau pan gyflwynwch eich cais ar y system ar-lein. Caiff ceisiadau eu hadolygu gan banel, a fydd yn ystyried a yw’r cais wedi dangos yn eglur ei fod yn bodloni meini prawf manyleb yr unigolyn ar gyfer y swydd.

Adborth

Os na lwyddwch i gael cyfweliad, anfonwn neges e-bost atoch cyn gynted ag y bydd y broses llunio rhestr fer wedi’i chwblhau.

Yn dilyn cyfweliad, gellir gofyn am adborth trwy anfon neges e-bost at recruitment@caerdydd.ac.uk.

Cyfweliadau

Fel arfer, cynhelir cyfweliadau o fewn pedair wythnos i'r dyddiad cau.

Os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad, byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn rhoi manylion lleoliad, amseriad a fformat y cyfweliad. Os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i'ch helpu i fynychu cyfweliad, rhowch wybod i ni.

Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i hawlio rhai treuliau a dynnir wrth fynychu cyfweliad wyneb yn wyneb ar gyfer swydd wag gyda Phrifysgol Caerdydd. Gallwch weld os ydych chi'n gymwys a gwneud cais drwy'r ffurflen Hawlio Treuliau Cyfweliad.

Cynnig cyflogaeth

Yn dilyn y broses gyfweld, bydd aelod o’r panel, sef y Cadeirydd fel arfer, yn cysylltu â’r ymgeisydd llwyddiannus ac yn rhoi gwybod iddo yr argymhellir ei fod yn cael cynnig y swydd.

Cynhyrchir contract cyflogaeth gan yr Is-adran Adnoddau Dynol.