Ein partneriaeth â Phrifysgol Xiamen

Mae ein partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Xiamen yn cefnogi cyd-raglenni academaidd, cynllun ysgoloriaeth PhD a chyfnewid staff a myfyrwyr.
Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina wrth ddod yn bartner â Xiamen dros 30 mlynedd yn ôl.
Mae ein cytundeb partneriaeth gyda Phrifysgol Xiamen, a lofnodwyd ar 18 Tachwedd 2016, yn estyn ein perthynas hirsefydlog a'n prosiectau cydweithredol cyfredol mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin gan gynnwys ymchwil catalysis.
"Rydym yn rhannu uchelgais rhygwladol Caerdydd ac yn edrych ymlaen at gydweithio ar brosiectau newydd ac arloesol fydd yn gallu cynnig manteision i Gymru a Tsieina.”
Mae mentrau'r cytundeb newydd yn cynnwys datblygu hyfforddiant ar y cyd ar gyfer ymchwilwyr drwy gyd-oruchwylio myfyrwyr doethurol, yn ogystal â chronfa ar y cyd i roi £1.2m o arian sbarduno i brosiectau ymchwil cydweithredol er mwyn denu arian allanol a chreu cysylltiadau masnach newydd i Gymru.
Mae manteision blaenorol ein perthynas gyda Xiamen yn cynnwys creu Sefydliad Confucius yng Nghaerdydd yn 2008. Mae’r Sefydliad yn darparu rhaglen estynedig o addysg iaith Tsieinëeg, yn hyrwyddo diwylliant Tsieineaidd yng Nghymru, ac yn cefnogi cydweithio rhwng Cymru a Tsieina. Yn ogystal, mae gan Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Rheolaeth ac Economeg Prifysgol Xiamen gytundeb ffurfiol ar oruchwylio myfyrwyr PhD ar y cyd. Maent hefyd wedi cyd-drefnu dau symposiwm a gynhaliwyd yn Xiamen yn 2015 a Chaerdydd yn 2016.
Cronfa Symudedd Allanol
Fel rhan o'n partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Xiamen / Prifysgol Xiamen Malaysia (XMU / XMUM), sefydlwyd cronfa symudedd allanol ar y cyd.
Bwriad y gronfa yw meithrin cysylltiadau rhwng y pleidiau ac ysgogi staff a chyfnewid myfyrwyr gan arwain at ddatblygu meysydd newydd ym meysydd ymchwil, arloesi a mentrau addysgol ar y cyd.
Bydd y gronfa nawr yn talu costau ar gyfer ymweliadau sy'n mynd allan i naill ai Prifysgol Xiamen, China neu Brifysgol Xiamen, Malaysia.
Dysgwch ragor am y gronfa a sut i ymgeisio.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy am ein gweithgareddau rhyngwladol, neu ffurfio partneriaeth gyda ni, cysylltwch â'r tîm Partneriaethau Rhyngwladol.