Ewch i’r prif gynnwys

Phrifysgol Normal Beijing

Beijing Normal University

Mae ein cytundeb partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Normal Beijing, Tsieina, a lofnodwyd ar 28 Tachwedd 2019, yn cryfhau ein perthynas hirsefydlog a'n gwaith helaeth ar y cyd mewn meysydd o ddiddordeb i'r ddwy brifysgol.

O ganlyniad i'r berthynas agos rhwng Prifysgol Normal Beijing a Phrifysgol Caerdydd, mae ein gwaith ar y cyd — sydd bellach yn cwmpasu’r tri Choleg yng Nghaerdydd — wedi galluogi hanes cyfoethog o gyfnewid ymchwil, cytundebau trosglwyddo myfyrwyr, a gweithgareddau addysgu tymor byr a thymor hir.

Mae’r bartneriaeth strategol wedi helpu i sefydlu cronfa gydweithredu bwrpasol. Ei nod yw helpu staff a myfyrwyr i ymgysylltu'n fwy gweithredol â Phrifysgol Normal Beijing mewn meysydd cyffredin o ran ymchwil, addysgu ac addysg.

Er bod y rhan fwyaf o'n hymchwil a'n gwaith academaidd ar y cyd â Phrifysgol Normal Beijing wedi bod yn rhan o’r disgyblaethau canlynol, rydym yn annog yn gryf unrhyw fath newydd o gydweithio a all gryfhau ein partneriaeth â Phrifysgol Normal Beijing ymhellach ym mhob maes pwnc:

  • addysg
  • leithoedd modern
  • ymchwil yr ymennydd
  • gwyddorau’r ddaear a daearyddiaeth ffisegol
  • mathemateg
  • deallusrwydd artiffisial a data mawr

Cefndir Prifysgol Normal Beijing

Wedi’i chydnabod yn fyd-eang yn un o sefydliadau addysg mwyaf mawreddog Tsieina, mae gan Brifysgol Normal Beijing dros 22,000 o fyfyrwyr llawn amser, gan gynnwys dros 10,000 o israddedigion, 12,700 o ôl-raddedigion a 1,600 o fyfyrwyr rhyngwladol.

Mae Prifysgol Normal Beijing yn sefydliad Project 211 a 985, ac, yn 2017, fe'i henwyd yn Brifysgol Dosbarth Cyntaf Dwbl. Yn rhan o fenter disgyblaethau o'r radd flaenaf Gweinyddiaeth Addysg Tsieina, caiff un pwnc ar ddeg eu cynnig yno, gan gynnwys gwyddoniaeth addysg, seicoleg, iaith a llenyddiaeth tsieinëeg, mathemateg, gwyddoniaeth systemau, gwyddor amgylcheddol a pheirianneg, ieithyddiaeth, hanes tsieina, daearyddiaeth, ecoleg, ac astudiaethau drama a ffilm.

Coleg ar y Cyd Astudiaethau Tsieineaidd Caerdydd-Tsieina

Mae Coleg ar y Cyd Astudiaethau Tsieineaidd Caerdydd-Tsieina yn waith ar y cyd unigryw ym maes addysgu ac ymchwil rhwng yr Ysgol Ieithoedd Modern yng Nghaerdydd a'r Ysgol Iaith a Llenyddiaeth Tsieineaidd ym Mhrifysgol Normal Beijing.

Mae myfyrwyr yn astudio ar gyfer BA mewn Tsieinëeg o Gaerdydd a BA mewn Iaith a Diwylliant Tsieineaidd o Brifysgol Normal Beijing, gan dreulio eu blwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd, blynyddoedd dau a thri ym Mhrifysgol Normal Beijing a'u blwyddyn olaf yng Nghaerdydd.

I ddysgu rhagor am Goleg ar y Cyd Caerdydd-Tsieina a sut i wneud cais, cysylltwch â contact Daniel Bickerton a bickertondi@caerdydd.ac.uk.

Cronfa Symudedd Prifysgol Normal Beijing

Yn rhan o'n partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Normal Beijing, sefydlwyd cronfa gydweithredu ar ymchwil ar y cyd.

Bwriad y gronfa yw meithrin cysylltiadau rhwng y prifysgolion ac ysgogi cyfnewid staff a myfyrwyr gan arwain at ddatblygu meysydd newydd o ymchwil, arloesi a mentrau addysgol ar y cyd.

Rhagor o wybodaeth am y gronfa gydweithredu, a sut i wneud cais.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â'r bartneriaeth strategol gyda Phrifysgol Normal Beijing, cysylltwch â:

Rheolwr Ymgysylltu Partneriaethau Rhyngwladol

Sophie Lewis