Ewch i’r prif gynnwys

Tsieinëeg (BA)


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Treuliwch flwyddyn dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.

structure

Wedi'i deilwra i’ch gallu

Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel dechreuwr neu uwch ac nid oes angen cymhwyster Safon Uwch.

people

Diwylliant Tsieina yn ei gyd-destun

Dysgwch am Tsieinëeg a ddiwylliant Tsieina yn y gymdeithas, gan gynnwys: hanes, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth.

exit

Rhyddid i ddewis

Enillwch brofiad ar leoliad gwaith, gweithiwch fel cynorthwyydd dysgu neu dewiswch astudio yn ystod eich blwyddyn dramor.

microphone

Anogwch eraill i ddysgu ieithoedd

Ysbrydolwch eraill drwy gymryd rhan mewn cynlluniau Myfyrwyr sy’n Llysgennad Iaith a Mentora Myfyrwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i ddod yn 'ddinasyddion byd-eang', yn ogystal â datblygu sgiliau iaith lefel uchel. Mae ein rhaglen BA Tsieinëeg yn eich galluogi i gael dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl sy'n cynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliant Tsieineaidd. Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Mae Tsieina wedi’i seilio ar hanes diwylliannol cyfoethog, diddorol, sy’n ymestyn yn ôl filoedd o flynyddoedd. Mae’n parhau i fod yn bŵer economaidd pwysig yn ogystal ag yn arloeswr yn y diwydiannau moduron ac electronig, sy’n symud mor gyflym. Drwy astudio Tsieinëeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Drwy astudio Tsieinëeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad lle siaredir Tsieinëeg Mandarin.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, a fydd yn ysgogi mentergarwch a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig.

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd yn niwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Tsieina.

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB. Os oes gennych radd B mewn Tsieinëeg Safon Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Os oes gennych radd 6 mewn Tsieinëeg Lefel Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Bagloriaeth Cymru

O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol. Os oes gennych radd B mewn Tsieinëeg Safon Uwch yn ychwanegol at neu mewn cyfuniad â BTEC bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Mae proffil pob ymgeisydd yn cael ei ystyried fel darlun cyflawn, gan ystyried eich diddordeb yn y radd a pha mor addas yr ydych ar ei chyfer, fel y dangosir yn eich datganiad personol ac adroddiad y canolwr, yn ogystal â graddau a ragwelwyd ac a gyflawnwyd. Asesir eich gallu i gyflwyno dadl, tystiolaeth o chwilfrydedd deallusol a’ch brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i astudio.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

  • Addysgu iaith o safon uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o addysgu ac asesiadau a gynlluniwyd i fwydo ymlaen i ddysgu yn y dyfodol.
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a’ch trochi yn niwylliant Tsieina, gan gynnwys seminarau rhaglen astudiaethau Tsieinëeg, lle mae ysgolheigion ac arbenigwyr ar astudiaethau Tsieineaidd o bob rhan o'r byd yn cael eu gwahodd i ddarlithio ar eu hymchwil eu hunain.
  • Cwricwlwm â bwa dysgu clir, sy'n defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac sy'n cynnig dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant Tsieineaidd.
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau.
  • Y dewis o ymgymryd ag interniaeth.
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio mewn gwlad sy’n gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng Tsieinëeg Mandarin.
  • Ystod cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2023. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2023 i ddangos y newidiadau.

Mae BA Tsieinëeg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau a sgiliau iaith lefel uchel dros flynyddoedd olynol i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob un o flynyddoedd y rhaglen byddwch yn astudio ar gyfer 120 o gredydau. Treulir blwyddyn 3 yn astudio neu’n gweithio yn Tsieina neu mewn gwlad Tsieinëeg Mandarin ei hiaith.

Mae blwyddyn un yn cynnwys modiwl iaith Tsieinëeg craidd 40 credyd a modiwlau 20 credyd yn cyflwyno hanes, cymdeithas a diwylliant Tsieina i chi o safbwynt byd-eang. Bydd myfyrwyr yn dewis 40 credyd ychwanegol, yn dewis o fodiwlau sy'n archwilio sinema Tsieineaidd, diwylliant bywyd bob dydd yn y Tsieina cyfoes, cyfieithu neu astudiaethau diwylliannol.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio 30 o gredydau iaith Tsieinëeg a modiwl 30 credyd trawswladol. Byddwch hefyd yn gallu dewis 60 credyd ychwanegol, sy'n amrywio o fodiwlau sy'n archwilio sinema Tsieineaidd, diwylliant bywyd bob dydd yn y Tsieina gyfoes, cyfieithu, astudiaethau diwylliannol neu astudio iaith a byd busnes yn Tsieina.

Byddwch yn adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych wedi'u datblygu i fynd ar drywydd dysgu arbenigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a/neu waith traethawd hir, sy’n cael ei addysgu/oruchwylio gan staff ymchwil arloesol, yn gweithio ar ddiwylliant, gwleidyddiaeth a hanes diwylliant Tsieina. Byddwch hefyd yn astudio 30 o gredydau iaith Tsieinëeg, yn adeiladu ar eich astudiaeth dramor, yn ogystal â 60 credyd o fodiwlau dewisol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un rydym yn cynnal llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd heb air o Tsieinëeg Mandarin, neu ychydig eiriau yn unig. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith sy'n cyflwyno datblygiad Tsieina fel cenedl i chi, gan archwilio beth yw ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio perthynas Tsieina â'r byd, gan eich galluogi i archwilio rôl Tsieina y tu hwnt i'r ffiniau cenedlaethol. Bydd astudiaethau yn y meysydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Bydd myfyrwyr yn dewis 40 credyd ychwanegol, yn dewis o fodiwlau sy'n archwilio sinema Tsieineaidd, diwylliant bywyd bob dydd yn y Tsieina cyfoes, cyfieithu neu astudiaethau diwylliannol.

Blwyddyn dau

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal â 30 o gredydau mewn Tsieinëeg Mandarin, byddwch yn astudio 30 o gredydau yn edrych ar Tsieina mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio eich diwylliant targed yn fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth. Byddwch hefyd yn astudio Busnes Tsieineaidd a Chyfieithu Arbenigol o'r Tsieinëeg i’r Saesneg.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, cewch y cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd dethol yn cael eu mentora gan ein myfyrwyr israddedig sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig. Mae’r myfyrwyr hyn yn mynd i'r ysgolion i fentora disgyblion mewn grwpiau bach o ddau neu dri dros gyfnod o bum wythnos.

Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr, sy'n gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, megis sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir blwyddyn 3 yn astudio neu’n gweithio yn Tsieina neu mewn wlad arall lle siaredir Tsieinëeg Mandarin. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i feithrin sgiliau iaith, yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Tsieineaidd ac yn datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Yn ystod eich amser yn Tsieina, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ymgymryd ag ‘interniaeth’ mewn sefydliad celfyddydau. Diben yr interniaeth yw datblygu eich sgiliau ieithyddol ymhellach, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Hefyd bydd gofyn i chi lunio dyddiadur, i gasglu ymchwil ar gyfer traethodau a’r traethawd hir yn ystod blwyddyn olaf eich astudiaethau. Mae’r ‘interniaeth’ am ddiwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn neu ychydig wythnosau cronedig yn ystod cyfnodau gwyliau.

Ni fyddwch yn cael cyflog yn ystod yr interniaeth. Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi a’i fonitro gan y prifysgolion partner sy’n cynnwys: Prifysgol Beijing Normal, Prifysgol Wuhan, Prifysgol Shanghai Jiaotong a Sefydliad Ymchwil Celfyddydau Shanghai. Mae’r broses interniaeth yn cael ei monitro gan gydlynydd y prifysgol partner ac arweinydd y prosiect o’r brifysgol gartref. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Mae mynd ymlaen i’r Flwyddyn Dramor yn Tsieina yn dibynnu ar gael cymeradwyaeth Llysgenhadaeth Tsieina ar gyfer eich fisa.  Mae rhagor o wybodaeth am y broses o wneud cais am fisa i astudio yn Tsieina ar gael ar wefan Llysgenhadaeth Tsieineaidd y DU.

Bydd cymorth a chanllawiau i’ch paratoi chi ar gyfer gwneud cais am eich fisa a’ch blwyddyn dramor ar gael gan yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mlwyddyn 2 eich rhaglen astudio.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn ni’n eich croesawu chi yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn derfynol, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 credyd traethawd hir ar Tsieina (yn Saesneg) a 30 credyd iaith Tsieinëeg Mandarin, yn ogystal â 60 credyd mewn modiwlau dewisol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig.

Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n cynorthwyo gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA Tsieinëeg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Hefyd, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth i’r Ysgol Ieithoedd Modern, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau. Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor hyd at lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg a Tsieinëeg Mandarin.
  • Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
  • Dod i gasgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan gyfiawnhau’r rhain gyda rhesymu cadarn a dehongliadau manwl o ddeunydd ffynhonnell.
  • Technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu traethawd academaidd, gan ddefnyddio’r confensiynau cyfeirio priodol.
  • Gwerthusiad beirniadol o syniadau a dadleuon, drwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ysgrifenedig a llafar.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant a llenyddiaeth Tsieina a gwledydd lle siaredir Tsieinëeg Mandarin.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2016-17, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol a oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am swydd.

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.