Ewch i’r prif gynnwys

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw darparu cyfleuster o'r radd flaenaf lle mae ymchwilwyr academaidd a diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i greu effaith economaidd drwy ddatblygiad cyflym technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd hyfyw yn fasnachol.

Ein cenhadaeth

Ein nod yw sicrhau capasiti ar gyfer creu ar raddfa fach* i ganolig er mwyn ategu gweithgarwch partneriaid diwydiannol ac academaidd ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn ogystal â’r arbenigedd a’r gallu i droi rhagoriaeth academaidd yn ddyfeisiau ymarferol y gellir eu gweithgynhyrchu ac is-systemau integredig. Y nod yn y pen draw yw cael effaith economaidd drwy fanteisio’n llawn, yn fasnachol ac yn academaidd, ar dechnolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.

*Mae creu ar raddfa fach fel arfer yn golygu dechrau ambell waffer yr wythnos (mae un o'n wafferi 150mm presennol, er enghraifft, yn cynhyrchu mwy na 150,000 o laserau sy’n allyrru’n fertigol i’r arwyneb).

Ymchwil academaidd

Ein nod yw bod y dewis gyfleuster yn y DU, â chydnabyddiaeth byd-eang, ar gyfer ysgogi, hwyluso a galluogi ymchwil CS o'r radd flaenaf.

Rydym yn recriwtio academyddion o'r radd flaenaf ac yn cynnig amgylcheddau sy'n helpu staff i gydweithredu, gan gynnwys labordai a swyddfeydd a rennir, mannau ar gyfer cyd-drafod a seminarau sy’n canolbwyntio ar y Sefydliad.

Cynhyrchiant diwydiannol

Rydym yn galluogi technoleg effaith uchel sy’n seiliedig ar led-ddargludyddion cyfansawdd ac sy’n berthnasol yn fasnachol, gan gynnwys cwmnïau deillio, ac yn datblygu cynhyrchion.

Ein nod yw sicrhau ein bod ar flaen y gad yn wyddonol, gan gynnwys sicrhau perthnasedd technegol, drwy gynnig cynhyrchion o'r radd flaenaf a phrisiau cystadleuol, rhannu arbenigedd technolegol, dylunio dyfeisiau a systemau, datblygu prosesau, prototeipio, rhoi mynediad i ystafelloedd glân a chyfrannu at y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Ymgysylltu â’r diwydiant ac academyddion

Rydym yn cysylltu partneriaid diwydiannol â’r ymchwilwyr academaidd gorau er mwyn nodi a datrys problemau ar y ddwy ochr ac ein nod yw cefnogi diwylliant o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi rhwng y ddau grŵp hyn.

Hyfforddi'r gweithlu

Bydd cwmnïau technoleg presennol a’r dyfodol, yng Nghymru a'r DU, yn ein hystyried yn rhywle rhagorol ar gyfer dod o hyd i weithwyr hynod fedrus. Bydd myfyrwyr y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau academaidd a diwydiannol, a byddant yn cael eu hyfforddi i gyfleu perthnasedd technegol eu gwaith.