HCT150 - Deall Canser: Safbwyntiau Cleifion a Gweithwyr Proffesiynol
Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw ymarferwr gofal iechyd a allai fod yn gweithio gyda chleifion sy'n byw gyda chanser ac ar ei ôl.
Ffocws y rhaglen yw darparu addysg gofal canser sy’n cael ei datblygu a’i chyflwyno mewn partneriaeth â People Affected By Cancer (PABC). Y nod yw gwneud yn siŵr bod y gofal a ddarparwch chi yn eich practis yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar anghenion PABC. Bydd astudio'r modiwl hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o sut i lunio gofal a darpariaeth gwasanaeth canser o fewn eich maes proffesiynol penodol eich hun a/neu amgylchedd clinigol.
Mae ein dull yn un o addysgu cydweithredol, ac felly rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cleifion i gynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu myfyriol a meddwl trawsnewidiol. Bydd eich dysgu a'ch datblygiad ar y modiwl hwn yn troi'n ymarfer clinigol gwell a fydd o fudd i'ch cleifion a'u teuluoedd.
Mae'r modiwl yn dod ag ymarferwyr gofal iechyd o amrywiaeth o leoliadau ynghyd i rannu profiadau. Byddwch yn edrych yn feirniadol ar ystod o faterion proffesiynol, polisi ac ymarfer uwch sy'n llywio'ch cyfraniad at ofal canser o safon.
Dyluniwyd y modiwl hwn i hyrwyddo integreiddiad i arferion ac elfennau damcaniaethol gofal canser. Er mwyn gwneud hyn, mae disgwyl i chi ddod â'ch profiad eich hun i'r sesiynau astudio, a chyfrannu mewn trafodaethau a dadleuon. Bydd perthnasoedd o'r fath, sy'n seiliedig ar barch y naill at y llall, yn helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial.
Byddwch yn astudio trwy gyfuniad o astudio wyneb yn wyneb a hunan-gyfeiriedig. Mae'r ffordd y cewch eich addysgu yn seiliedig ar egwyddorion dysgu oedolion; byddwn yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i annog hunan-gyfeirio ac annibyniaeth ddeallusol er mwyn hwyluso eich datblygiad proffesiynol a phersonol.
Bydd y dulliau dysgu ac addysgu'n cynnwys darlithoedd, gweithgareddau dysgu dan arweiniad, trafodaethau seminar, gwaith grŵp, astudiaethau achos, gweithgareddau ar-lein, a fforymau trafod.
Bydd y gweithgareddau dysgu ar-lein yn cael eu strwythuro o amgylch adnoddau sydd eisoes yn bodoli ar-lein, e.e. blogiau cleifion.
Cynhelir y modiwl o fis Ionawr i fis Mai bob blwyddyn, a gellir astudio'r modiwl yn unigol, neu fel rhan o holl lwybrau MSc Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Nid oes angen i chi fod yn gweithio'n uniongyrchol mewn gwasanaeth canser i gael mynediad i'r modiwl hwn. Ble bynnag yr ydych yn gweithio rydych yn cefnogi PABC a bydd y modiwl hwn yn cefnogi eich gwybodaeth, sgiliau a darpariaeth gwasanaeth.
Dyddiadau modiwl
Darganfyddwch pryd mae'r modiwl annibynnol hwn yn rhedeg trwy lawrlwytho ein Calendr Modiwlau Lefel 7 arunig:
Modiwl yn arwain
Gwybodaeth bellach
Cod y Modiwl | HCT150 |
---|---|
Credydau | 30 |
Lefel | 7 |
Amser dysgu tybiannol Oriau cyswllt | 6 diwrnod dosbath, 6 diwrnod o ddysgu hunangyfeiriedig |