Stori Tungeinge Nghifitikeko
Mae Tungeinge ar fin dechrau ei bedwaredd flwyddyn o’i astudiaethau nyrsio ac mae ar raglen gyfnewid unigryw rhwng Prifysgol Namibia a Phrifysgol Caerdydd.
Mae wedi bod ar leoliad yn Ysbyty’r Mynydd Bychan lle mae wedi bod yn gweithio gyda’r Ward Gofal Brys, Ward Meddygol a’r Ward Mamolaeth. Drwy’r cyfle hwn, mae Tungeinge wedi gallu dysgu mewn ffyrdd ymarferol a damcaniaethol sydd wedi cyfoethogi ei wybodaeth a rhoi hwb i’w hyder.
Meddai Tungeinge, ‘Rydw i eisiau dysgu am yr arferion a’r diwylliant sy’n gysylltiedig â sut y cyflwynir gofal nyrsio i gleifion yma.’
Cyn symud i Gaerdydd, roedd gan Tungeinge bryderon ynghylch sut i addasu i amgylchedd newydd. Fodd bynnag, buan iawn y teimlodd yn gartrefol oherwydd ymdrechion trefnwyr y rhaglen a hwylusodd y broses bontio, ac fe wnaeth yr ystod o adnoddau gwych yn y llyfrgell gynorthwyo ei astudiaethau.
Mae Tungeinge wedi dysgu llawer iawn ers symud i Gaerdydd. Un o’i brofiadau mwyaf cofiadwy oedd dysgu sut i ddefnyddio canllawiau cynnal byw sylfaenol yn ogystal â’r gallu i archwilio babanod newydd-anedig yn y Ward Mamolaeth.
Meddai Tungeinge, ‘Uchafbwynt fy ymweliad oedd cael y fraint o wylio gweithdrefnau cynnal byd sylfaenol ar waith a’u dangos. Cefais brofiad o fod mewn ystafelloedd clinigol trefnus gyda llawer o adnoddau sydd, yn yr un modd, yn ysgogi presenoldeb y claf. Mae’r darlithoedd a gynhelir yma yn rhoi llawer iawn o gefnogaeth i ddarlithwyr a chefais y teimlad o fod yn rhan o dîm.’
Mae Tungeinge yn teimlo’n ffodus iawn ei fod yn gallu astudio yma yng Nghymru a dywedodd ‘mae’r rhain yn gyfleoedd euraidd a rhaid manteisio arnyn nhw. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r rhaglen. Yn olaf, buaswn wrth fy modd yn dychwelyd i astudio fy nghwrs ol-raddedig yma pe byddai cyfle i wneud hynny. Diolch yn fawr!’
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd byd-eang ewch i'n gwefan.