Cefndir
Rydym yn un o ganolfannau rhanbarthol Canolfan Arloesi Digidol Genedlaethol Hartree sy'n galluogi busnesau'r DU i ymchwilio i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg a’u mabwysiadu at ddibenion trawsnewid digidol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial at ddibenion cynhyrchiant, arloesi a thwf economaidd.
Bydd Canolfan Hartree Caerdydd yn elwa ar y gymuned fywiog ym maes deallusrwydd artiffisial, gwyddor data a chyfrifiadura perfformiad uchel sy'n canolbwyntio ar ymchwil ac arloesi ym Mhrifysgol Caerdydd a chaiff ddefnyddio clystyrau BBaCh Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phorth y Gorllewin ar unwaith.
Mae gan dîm y Ganolfan brofiad uniongyrchol dwfn o ymgymryd ag ymchwil a datblygu arloesol a arweinir gan effaith wrth gydweithio, ac mae ganddi berthnasoedd cryf â byd diwydiant a dulliau sicr a chadarn o ymgysylltu â BBaChau.
Gyrrwch e-bost atom i ddarganfod mwy am gydweithio â ni.