Ewch i’r prif gynnwys

Yr hyn a gynigiwn

Rydyn ni’n rhoi cymorth penodol a lleol ym maes deallusrwydd artiffisial a dadansoddi data i BBaChau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd gan ymestyn i ardal Porth y Gorllewin.

Rydyn ni’n cynnig tri chyfle o ran cyfnewid gwybodaeth â BBaChau:

  • Mae sesiynau ymgysylltu yn golygu bod BBaChau yn cymryd rhan mewn digwyddiadau briffio a rhwydweithio wyneb yn wyneb neu hybrid.
  • Mae sesiynau cynorthwyo yn golygu rhyngweithio am tua 12 awr rhwng BBaCh a thîm y Ganolfan, gan ganolbwyntio ar broblem fusnes benodol neu faes technolegol.
  • Mae’r prosiectau'n golygu y bydd BBaCh a’r tîm yn cydweithio am 1-3 o fisoedd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu ac arbrofi syniad penodol.