Ewch i’r prif gynnwys

Technoleg

Caiff y BBaChau ddefnyddio’r peth wmbreth o arbenigedd ymchwil ac arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial a gwyddor data yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd ac Academi’r Gwyddorau Data.

Yn benodol, rydyn ni’n canolbwyntio ar dri maes sy'n dod i'r amlwg yn rhan o dechnoleg deallusrwydd artiffisial:

  • Mae deallusrwydd artiffisial sy'n Canolbwyntio ar Bobl yn ystyried trawsnewidiadau digidol a gyflawnir drwy gyfuniad o ddeallusrwydd dynol a deallusrwydd peirianyddol. Nid yw deallusrwydd artiffisial yn disodli pobl; yn lle hynny, mae ein galluoedd yn cael eu gwella gan dechnoleg. Mae ymchwil ar ddeallusrwydd artiffisial yn cwmpasu cyfathrebu a rhyngweithio rhwng pobl a deallusrwydd artiffisial, deallusrwydd artiffisial esboniadwy a materion ynghylch deallusrwydd artiffisial sy’n dryloyw, yn ddiogel ac yn atebol.
  • Modelau Iaith Mawr yw'r datblygiad diweddaraf ym maes technoleg prosesu iaith naturiol sy’n seiliedig ar rwydweithiau niwral dwfn, gan ddatblygu datblygiadau’n gyflym mewn meysydd gan gynnwys dosbarthu a chreu testun, sgwrsfotiau a thynnu gwybodaeth o destun.
  • Mae Dysgu a Yrrir gan Wybodaeth yn canolbwyntio ar sut y gall gwybodaeth ddynol – sydd fel arfer ar ffurf 'graffiau gwybodaeth' rhyng-gysylltiedig – wella dysgu peirianyddol, a sut y gall dysgu peirianyddol greu gwybodaeth newydd y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniadau gwell.