Ewch i’r prif gynnwys

Archebwch eich gwisg academaidd

Diweddarwyd ddiwethaf: 01/12/2023 10:14

Mae'n ofynnol i raddedigion wisgo'n smart a gwisgo gwisg academaidd ar eu Diwrnod Graddio. Dyma wybodaeth am sut i archebu a chasglu eich gwisg academaidd.

Y dyddiad cau ar gyfer gorchmynion gwisg academaidd yw 12:00 ddydd Mawrth 18 Mehefin.

Sut i archebu eich gwisg academaidd

Marston Events yw ein partneriaid gwisg academaidd ar gyfer Graddio.*

Mesuriadau

Wrth archebu, bydd angen y tri mesuriadau canlynol arnoch chi:

  1. Taldra: mesurwch o gorun eich pen i'r ddaear, gan gofnodi’r mesuriad naill ai mewn centimetrau a metrau neu droedfeddi a modfeddi – wrth fesur eich taldra, peidiwch â gwisgo esgidiau â sodlau
  2. Het: mesurwch led eich pen fodfedd uwchben eich aeliau, gan gofnodi’r mesuriad mewn centimetrau neu fodfeddi
  3. Brest: mesurwch o gwmpas rhan letaf eich brest

Lliwiau gwisg academaidd

Mae lliwiau eich gŵn a'ch cwfl yn dibynnu ar y radd rydych chi wedi astudio ar ei chyfer, a chânt eu neilltuo i chi fel mater o drefn yn seiliedig ar eich dyfarniad (fel y manylir yn eich e-bost gwahoddiad Graddio cyntaf ym mis Mawrth).

Mae’n rhaid i chi wisgo eich gŵn, eich cwfl a’ch het drwy gydol eich seremoni Raddio.

Manylion eich dyfarniad

Bydd angen i chi hefyd roi manylion eich dyfarniad:

  • Diploma – Diploma Addysg Uwch, Diploma Graddedig, Diploma Ôl-raddedig
  • Tystysgrif – Tystysgrif Addysg Uwch, Tystysgrif Raddedig, Tystysgrif Ôl-raddedig, Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig
  • Baglor – BA, BArch, BD, BEd, BEng, BSc, BScEcon, BMedSc, BMid, BMus, BN, BSD, BTh, LLB
  • Baglor Estynedig a Meistr Integredig – BDS, MBBCh, MArch, MChem, MEng, MESci, MMath, MPharm, MPhys
  • Meistr a Addysgir – LLM, MA, MBA, MClinDent, MEd, MEP, MMus, MPA, MPH, MSc, MScD, MScEcon, MTh
  • Meistr Ymchwil – MPhil, Mhres, MScD drwy Ymchwil
  • Doethuriaeth – PhD, DAHP, DClinPsy, DDS, DEdPsy, DHS, DNurs, DNursSci, DSW, EdD, EngD, MCh, MD, SPPD
  • Uwch-ddoethuriaeth – DD, DDSc, DLitt, DMus, DSc, DScEcon, LLD

Costau llogi

Mae’r costau llogi i’w gweld ar wefan Marston Events, nid yw’r rhain wedi newid ers 2023.

  • £47.99 i israddedigion
  • £53.99 i ôl-raddedigion
  • £53.99 i fyfyrwyr PhD.

Bydd angen talu £10 yn ychwanegol i logi eich gwisg academaidd ar y diwrnod.

Er mwyn llogi eich gwisg academaidd am gyfnod estynedig (pum diwrnod a’r cyfnod dychwelyd drwy’r post), am £30 ychwanegol.

Archebwch eich gwisg academaidd

Casglu a dychwelyd eich gwisg academaidd

Bydd Marston Events yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr (ar y llawr cyntaf a’r ail lawr) ar gyfer casglu a dychwelyd eich gwisg academaidd. Gweler yr hamserlen Raddio am amseroedd casglu.

Rhaid dychwelyd gynau i'r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ar ddiwrnod eich seremoni

Defnyddir sglodion Adnabod Amledd Radio ym mhob eitem i fonitro cyflenwad a sicrhau bod eitemau’n cael eu dychwelyd.

Gofynnir i raddedigion gasglu eu gwisg academaidd ar eu pen eu hunain er mwyn ein helpu i reoli nifer yr ymwelwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Gofynnir i westeion aros yn ardal yr ŵyl ym maes parcio'r Prif Adeilad.

Dyma ragor o wybodaeth am ohirio Graddio a rheoli eich archeb.

Gallwch chi brynu eich gŵn neu ei logi am gyfnod estynedig.

*Gall graddedigion ddefnyddio darparwyr trydydd parti os hoffan nhw wneud hynny, ar yr amod eu bod yn cyrraedd safonau’r Brifysgol.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â Marston Events os oes gennych unrhyw gwestiynau am archebu gwisg academaidd.