Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth ariannol

Diweddarwyd: 19/03/2024 11:37

Dydyn ni ddim am i bris y seremoni Raddio atal unrhyw un rhag bod yn bresennol ynddi. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

Rhaglen Cymorth Ariannol

Os byddwch chi’n wynebu trafferthion i dalu costau’r seremoni Raddio, gallwch wneud cais i’r Rhaglen Dyfarniadau Cymorth Ariannol ar fewnrwyd y myfyrwyr (dylai myfyrwyr ddefnyddio’r manylion mewngofnodi maen nhw’n arfer eu defnyddio yn y brifysgol) cyn dyddiad gorffen eich cwrs i weld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth.

Gall myfyrwyr ôl-raddedig fu’n astudio cwrs sydd wedi dirwyn i ben, ond sy’n Graddio eleni, hefyd wneud cais am gymorth ariannol (ar sail prawf modd) i gwrdd â chostau’r seremoni Raddio drwy anfon e-bost at fapa@caerdydd.ac.uk.

Gyda'n Gilydd yng Nghaerdydd

Os ydych chi ar gofrestr Gyda’n Gilydd yng Nghaerdydd, sef ein cymuned ar gyfer y rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gofalwyr, myfyrwyr sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu, y rhai sydd â phrofiad milwrol, a cheiswyr lloches, byddwch chi’n cael eich gwisg academaidd yn rhad ac am ddim yn awtomatig. Byddwn ni mewn cysylltiad â chi ym mis Mai i drafod hyn.

Os nad ydych chi wedi cofrestru ar hyn o bryd ar gyfer cymorth Gyda’n Gilydd yng Nghaerdydd e-bostiwch cyswlltmyfyrwyr@caerdydd.ac.uk.