Ewch i’r prif gynnwys

Teithio, llety a hygyrchedd

Diweddarwyd: 15/04/2024 11:31

Gwybodaeth am gyngor teithio, llythyrau ymwelwyr, ymweld â Chaerdydd, meysydd parcio, opsiynau llety a hygyrchedd.

Rydym am i chi gael y profiad gorau o'r seremoni Raddïo.  Mae'r wybodaeth ganlynol yn cael ei darparu i'ch cynorthwyo gyda'ch gwaith cynllunio.

Yn ystod wythnos y Graddio mae Caerdydd yn debygol o fod yn brysur, gyda digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal. Ystyriwch hyn wrth wneud trefniadau teithio a llety.

Darganfyddwch fwy am yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd.

Cyngor a chefnogaeth teithio

Os oes angen llythyr ymwelydd arnoch chi neu'ch gwesteion i gefnogi cais am fisa, bydd angen i chi gysylltu â'r tîm perthnasol i ddarparu un i chi.

Bydd angen i fyfyrwyr israddedig gysylltu studentconnect@caerdydd.ac.uk, a bydd angen i fyfyrwyr ôl-raddedig gysylltu registrysupport@caerdydd.ac.uk.

Os oes angen llythyr ymwelydd arnoch chi neu'ch gwesteion i gefnogi cais am fisa, bydd angen i chi gysylltu â'r tîm perthnasol i ddarparu un i chi.

Bydd angen i fyfyrwyr israddedig gysylltu studentconnect@caerdydd.ac.uk, a bydd angen i fyfyrwyr ôl-raddedig gysylltu registrysupport@caerdydd.ac.uk.

Mae Caerdydd yn ddinas gryno ac yn weddol hawdd i teithio o gwmpas ar droed neu ar feic, ar fws, trên, trafnidiaeth gyhoeddus, tacsi, neu hyd yn oed gwch. Am fwy o wybodaeth am opsiynau teithio:

Mae llawer o opsiynau ar gyfer parcio yng nghanol dinas Caerdydd a Bae Caerdydd. Ar gyfer lleoliadau parcio a phrisiau:

Mae croeso i ddeiliaid Bathodynnau glas ddefnyddio ein maes parcio Adeilad Bute ar y diwrnod y maent yn mynychu Graddio. Rhaid i chi gyflwyno'ch bathodyn glas ar ôl cyrraedd a'i arddangos yn eich cerbyd.

Mae gan Gaerdydd nifer o wasanaethau tacsi sydd ar gael 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos, gydag amrywiaeth o fflydoedd i weddu i wahanol niferoedd ac anghenion hygyrchedd.

Am wybodaeth am weithredwyr tacsi, rhengoedd a phrisiau, gweler Canllaw tacsi Croeso Caerdydd.

Nid oes cyfleusterau bagiau yn unrhyw un o'n lleoliadau Graddio. Os oes gennych chi fagiau i'w storio, fe allech chi ystyried defnyddio gwasanaeth fel Stasher.com

Opsiynau llety

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd hunanarlwyo ym Mhorth Talybont a Chwrt Senghennydd:

  • addas ar gyfer deiliadaeth sengl
  • meddu ar gyfleusterau en-suite neu gyfleusterau ystafell ymolchi a rennir (yn dibynnu ar y preswylfa a ddewisir)
  • rhannu ardal gegin
  • cael mynediad i Wi-Fi am ddim
  • yn gyflawn gyda dillad gwely a thywelion ffres
  • arhosiad lleiaf o 2 noson
  • gall uchafswm o wyth o bobl archebu lle fel grŵp
  • mae maes parcio yn amodol ar argaeledd – codir tâl ychwanegol.

Archebwch eich llety neu cysylltwch ag Is-adran Gwasanaethau’r Campws yn groupaccom@cardiff.ac.uk neu ffoniwch +44 (0)29 2087 4616 os oes angen cymorth arnoch.

Mae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o lety i weddu i bob chwaeth a chyllideb. Mae Croeso Caerdydd yn darparu llawer o ddewisiadau ar gyfer gwestai, hosteli, neu hunanarlwyo.

Mae gwyliau i'r anabl yn arbenigwyr gwyliau hygyrch ac yn darparu manylion llety hygyrch yng Nghaerdydd.

Gwasanaethau hygyrch

Mae gan Croeso Caerdydd ganllaw hygyrchedd ar deithio i’r ddinas ac o’i chwmpas, gan gynnwys gwybodaeth am doiledau hygyrch a’r gwasanaethau sydd ar gael os oes gennych anghenion hygyrchedd.

Mae gwasanaeth bygi symudol am ddim ar gael i deithio o amgylch canol dinas Caerdydd rhwng dau leoliad a drefnwyd ymlaen llaw. Dysgwch fwy am sut i archebu gwasanaeth bygi symudol.

Mae'r canllawiau hyn yn dangos sut i gyrchu adeiladau academaidd, darlithfeydd, mannau addysgu a neuaddau preswyl. Maen nhw’n cynnwys gwybodaeth am leoedd parcio, tai bach, mynediad gyda grisiau neu ramp, a chyfleusterau newid.

Hygyrchedd yn Utilita Arena

Mae gwybodaeth am hygyrchedd yn y lleoliad ar gyfer seremonïau ar gael ar wefan Utilita Arena.

Hygyrchedd ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r prif adeilad a'r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr yn hawdd eu cyrraedd. Gallwch gael cyfarwyddiadau i Brifysgol Caerdydd ar fws, trên, car neu awyren.

Rydym yn gwneud gwelliannau ac addasiadau i’n hadeiladau yn gyson er mwyn gwella hygyrchedd. Darganfod mwy am yr adeiladau yr ymwelwch â nhw, eu lleoliadau, hygyrchedd a

Mae Canolfan Bywyd Myfyrwyr - y lleoliad ar gyfer gŵn a ffotograffiaeth wedi:

  • Mae ystafell bwydo ar y fron ar gael (ystafell 2.27).
  • Ceir ystafelloedd tawel i raddedigion a gwesteion ar y 4ydd llawr, ystafelloedd 4.12 a 4.13. Gofynnwch i aelod o staff eich cyfeirio.

Prif Adeilad - mae lleoliad ein hardaloedd dathlu wedi:

  • Caniateir mynediad i'r anabl i ddigwyddiadau Derbynfa'r Ysgol trwy Oriel Viriamu Jones y Prif Adeilad.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd, cyngor teithio, llythyrau i ymwelwyr, ymweld â Chaerdydd, meysydd parcio, ac opsiynau llety.

Myfyrwyr israddedig

Myfyrwyr ôl-raddedig