Ewch i’r prif gynnwys

Gweithredu diwydiannol yn ystod graddio

Diweddarwyd: 19/03/2024 11:41

Bydd y seremonïau graddio yn mynd yn eu blaenau yn ôl y cynllun. Dyma ragor o wybodaeth am y gweithredu diwydiannol gan aelodau’r UCU (Undeb y Prifysgolion a'r Colegau) yn ystod y seremonïau graddio.

Mae graddio bob amser wedi bod yn ddigwyddiad dathlu yn hytrach na seremoni i gadarnhau dyfarnu graddau, a bydd yn mynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd.

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer myfyrwyr, eu gwesteion a staff i ddod at ei gilydd i gydnabod cyflawniadau ein myfyrwyr, eu llongyfarch a nodi diwedd eu hastudiaethau a dechreuadau newydd.

Trefnir graddio ar sail y disgwyliad i fyfyriwr gwblhau ei raglen astudio a heb gadarnhad o'i ddyfarniad terfynol.

Marcio ac asesiadau

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith gweithredu diwydiannol ar ein myfyrwyr.

Mae'n bwysig nodi nad yw pob aelod o'r staff yn rhan o'r anghydfodau hyn. Gallai aelodau UCU ddewis cymryd rhan y boicot marcio ac asesu. O'r herwydd bydd y goblygiadau ar asesu a'r camau a gymerwyd i leihau effaith y gweithredu diwydiannol hwn yn amrywio ar draws ysgolion academaidd.

Bydd rhagor o fanylion am y camau y cytunwyd arnynt i gadarnhau dyfarniadau terfynol yn cael eu rhannu â myfyrwyr gan eu hysgol academaidd.

Ydych chi'n mynd i seremoni raddio?

Gallwch fynd i seremoni raddio os ydych wedi derbyn gradd dros dro, os nad ydych wedi derbyn dyfarniad eto, neu os ydych yn aros am farciau coll cyn derbyn dyfarniad.

Wrth fynychu Graddio, dylech wisgo gwisg academaidd lawn ar gyfer y rhaglen yr oeddech yn ei hastudio neu a gwblhawyd; hyd yn oed os dyfarnwyd gradd dros dro i chi, nid ydych wedi derbyn dyfarniad ar hyn o bryd, neu mae eich dyfarniad yn aros i gael marciau coll.

Derbyn eich tystysgrif a’ch Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)

Yn unol â blynyddoedd blaenorol, nid yw graddedigion yn derbyn eu tystysgrifau gradd yn ystod eu seremonïau graddio.

Byddwch yn cael mynediad at dystysgrif electronig a'ch Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR) trwy borth Verify a byddwch yn cael copi caled o dystysgrif cyn gynted â phosibl. Rhagor o wybodaeth am dderbyn eich tystysgrif a’ch Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch.

Gohirio eich seremoni raddio

Os oes gennych ganlyniad dros dro ac y byddai'n well gennych aros nes bod gennych eich crynodeb academaidd swyddogol llawn er mwyn graddio, gallwch ohirio eich Seremoni Raddio tan y flwyddyn nes. Os hoffech ohirio, ebostiwch registrysupport@caerdydd.ac.uk gan roi'ch enw llawn a'ch rhif myfyriwr.

Cysylltwch â'n partneriaid hefyd i ohirio neu ganslo unrhyw drefniadau a wnaethoch chi o ran gwisg academaidd neu dynnu lluniau.

Gweithredu diwydiannol

Yn rhan o anghydfod cenedlaethol ynghylch cyflog ac amodau gwaith, dyma roi gwybod ei bod yn bosibl y bydd aelodau o Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) sy’n cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol yn ystod wythnos y Seremonïau Graddio yn trefnu llinell(au) piced.

Nid ydym yn rhagweld y bydd y gweithredu hwn yn effeithio ar eich diwrnod, ond rydyn ni eisiau ichi fod yn ymwybodol o hyn a’ch bod yn deall rhagor am y llinellau piced:

  • ystyr llinell biced yw pan fydd gweithwyr a chynrychiolwyr undebau yn sefyll y tu allan i weithle ac yn dweud wrth bobl eraill pam maen nhw’n gweithredu’n ddiwydiannol.
  • mae’n rhaid i bicedwyr beidio ag atal pobl rhag mynd i'r gwaith neu fynd i mewn i'r Brifysgol ac mae’n rhaid iddyn nhw beidio â ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol na sarhaus sy'n gyfystyr ag aflonyddu.
  • dim ond ger mynedfa neu allanfa’r safle neu'r swyddfa lle mae’r sawl sy’n picedu y caniateir picedi.

Telerau ac amodau

Os na all y seremoni gael ei chynnal neu os caiff ei gohirio oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys (heb gyfyngiad) tân, ffrwydrad, gweithred derfysgol (neu fygythiad o weithred derfysgol), gweithred Duw, pandemig, galar cenedlaethol , neu o ganlyniad i unrhyw weithredu diwydiannol neu anghydfod yn ymwneud â Phrifysgol Caerdydd, neu'r lleoliad lle mae'r seremoni wobrwyo i fod i gael ei chynnal. Ni fydd Prifysgol Caerdydd yn atebol am unrhyw golledion a achosir yn uniongyrchol neu fel arall gan y graddedigion neu eu gwesteion.