Cofrestru ac archebu tocynnau
Diweddarwyd: 08/04/2024 11:38
Gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer Graddio 2024 ac archebu tocynnau.
Rhowch wybod i ni os ydych yn mynychu neu beidio
Mae'n rhaid i chi gadarnhau eich presenoldeb a darparu gwybodaeth bellach amdanoch chi a'ch gofynion fel y gallwn gynllunio'n unol â hynny.
Bydd angen i chi:
- fynd ich cyfrif SIMS Ar-lein
- nodwch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair prifysgol (os na allwch gofio eich cyfrinair, cliciwch ar Wedi anghofio eich enw defnyddiwr neu gyfrinair?' i’w ailosod
- cliciwch ar Fy Seremoni ar frig y dudalen
- ateb y cwestiynau
Cewch neges ebost i gadarnhau eich bod wedi cwblhau’r broses gofrestru.
Rhaid i bob myfyriwr ymateb cyn dydd Mawrth 18 Mehefin 2024.
Sylwch fod yn rhaid i blant dros 2 oed gael tocyn ar gyfer seremonïau a digwyddiadau derbyn yr ysgol, ac ni chaniateir anifeiliaid anwes.
Archebu eich tocynnau
Mae angen tocyn ar raddedigion a gwesteion i gymryd rhan mewn seremoni raddio Ysgol yn Arena Utilita a'i digwyddiad derbyn yng Ngerddi Graddio’r Prif Adeilad. Mae'r un tocyn yn cael ei ddefnyddio i fynd i mewn i'r ddau ddigwyddiad.
Bydd angen eich rhif myfyriwr arnoch i gael mynediad at y system docynnau, a ddarperir gan ein partneriaid Marston Events, lle gallwch archebu:
- eich tocyn
- tocynnau rhad ac am ddim i westeion
- cost tocynnau ychwanegol i westeion, £30 yr un
Os oes angen mwy na 5 tocyn i westeion arnoch, gofynnwch am y rhain ar adeg eich archeb gychwynnol. Ni ellir gwarantu'r tocynnau hyn, ond fe'ch hysbysir trwy e-bost, yn nes at ddyddiad eich Graddio, os oes argaeledd.
Rhaid i bob archeb gael ei gwneud gan raddedigion cyn dydd Mawrth, 18 Mehefin 2024.
Tocynnau digidol
Bydd tocynnau sydd wedi'u harchebu ymlaen llaw yn cael eu e-bostio at raddedigion bum niwrnod gwaith cyn eu seremoni.
Dyrennir pob sedd ymlaen llaw a byddant yn cael eu manylu ar docynnau digidol. Oherwydd nifer yr ymwelwyr Graddio, ni ellir newid seddi ac ni ddylid rhannu tocynnau.
Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho eich tocynnau ymlaen llaw er mwyn osgoi unrhyw broblemau gyda wifi ar y diwrnod.
Wrth gyrraedd Arena Utilita byddwch yn ymwybodol y bydd chwiliadau bagiau yn cael eu cynnal, ac ni chaniateir cadeiriau gwthio yn yr arena - ond mae parc bygi ar gael.
Rhagor o wybodaeth am Arena Utilita.
Gwerthu tocynnau ar y diwrnod
Ni allwn warantu y bydd tocynnau ar gael ar y diwrnod, ond os oes, yna bydd y rhain ar gael i'w prynu am £30 y tocyn trwy daliad cerdyn.
Bydd tocynnau'n cael eu gwerthu yn Arena Utilita ar sail y cyntaf i'r felin, un awr cyn dechrau'r seremoni. Ni fydd y seddi hyn wrth ymyl seddi gwesteion a archebir ymlaen llaw.
Peidiwch â gwneud trefniadau teithio drud gan dybio y cewch docyn, gan na ellir gwarantu hyn.
Darllediadau byw
I unrhyw un sy'n methu â chymryd rhan seremonïau Graddio yn bersonol, byddant yn cael eu darlledu'n fyw ar-lein ac yn Undeb y Myfyrwyr. Darperir dolenni You Tube a Weibo i ddarllediadau byw yn ein hamserlen Seremonïau yr wythnos cyn Graddio.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â Marston Events os oes gennych unrhyw gwestiynau am archebu tocynnau.
Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau am gofrestru ar gyfer graddio neu eich gwahoddiad.
Myfyrwyr israddedig
Myfyrwyr ôl-raddedig
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr wisgo'n smart a gwisgo gwisg academaidd ar gyfer graddio.