Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogwch fyfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol

Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cael eu taro’n galed gan yr argyfwng costau byw. Cyfrannwch heddiw a helpu myfyriwr sy’n wynebu caledi ariannol o ran eu costau byw hanfodol a’u hastudiaethau.

Mae costau byw uwch yn effeithio ar iechyd meddwl rhai myfyrwyr ac yn achosi i lawer o rai eraill golli allan ar y cyfleoedd pwysig a fydd yn eu helpu i gael y gorau o'u hastudiaethau. Yn anffodus, bydd rhai yn tynnu'n ôl o fywyd myfyrwyr, neu hyd yn oed yn rhoi'r gorau i'r brifysgol yn gyfan gwbl.

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio'n galed i helpu, ac mae'r Gronfa Caledi myfyrwyr eisoes wedi'i chynyddu i £1m. Ond rydyn ni eisiau gwneud mwy i fyfyrwyr Caerdydd wrth iddyn nhw wynebu gaeaf heriol.

Allech roi rhodd heddiw i helpu myfyriwr fel Craig, a gafodd gymorth ariannol pan oedd yn cael trafferth talu rhent a chostau byw cynyddol. Gallai eich rhodd heddiw helpu gyda:

  • Chost offer, llyfrau ac adnoddau astudio.
  • Biliau ynni i gadw tai myfyrwyr yn gynnes ac yn sych.
  • Siopa bwyd a hanfodion iechyd fel cynhyrchion misglwyf.
  • Costau llety yng nghanol prisiau rhent cynyddol.
  • Costau annisgwyl fel trwsio gliniaduron.
  • Offer arbenigol i helpu'r rhai sydd ag anghenion gwahanol i gael y gorau o'u hastudiaethau.
  • Biliau rhyngrwyd a ffonau symudol – hanfodol i fyfyrwyr astudio, a chael mynediad at wasanaethau ar-lein.

I roi rhodd dros y ffôn, ffoniwch ni +44(0) 29 2087 6473 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 09:00-17:00).

Allwch roi drwy PayPal Giving Fund hefyd, neu drwy chwylio ffyrdd eraill i'w rhoi.