Astudio
Dechreuwch eich gyrfa trwy ein cwrícwlwm arloesol, prosiectau yn y byd go iawn, cysylltiadau â’r byd diwydiannol a chymorth gyrfaol.
Yn Academi Gwyddor Data, byddwn ni’n rhoi ichi’r medrau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ymhlith graddedigion. Byddwch chi’n elwa ar gyfle i ddatrys problemau yn y byd go iawn a setiau data a fydd yn cryfhau eich cyflogadwyedd.
Bydd ein tîm academaidd yn eich addysgu trwy brosiectau sy’n ymwneud â sefydliadau allanol fel y cewch chi brofiad o weithredu mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Ein gobaith yw meithrin pobl fedrus a dawnus er lles economaidd Cymru a’r deyrnas gyfan.
Ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i fyfyrwyr y DU yn dechrau cwrs gradd Meistr yn Medi 2024.