Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio gwyddoniaeth data

Mae'r Cyflymydd Arloesedd Data yn cefnogi cwmnïau i gymhwyso offer a thechnegau gwyddor data i'w data, a all fod yn arf hanfodol ar gyfer gwydnwch a thwf busnesau.

Mae hyn yn galluogi cwmnïau i gael mewnwelediad deallus i dueddiadau ac ymddygiadau sy'n dod i'r amlwg, darparu strategaethau gwerthu a marchnata wedi'u targedu'n dda, symleiddio prosesau busnes a bod yn ymatebol iawn i deimladau cwsmeriaid a newid amodau'r farchnad yn gyflym.

Drwy'r broses hon rydym wedi datblygu detholiad o achosion defnydd posibl:

Allweddeiriau gwyddor data

Mae pwnc gwyddor data yn berwi â therminoleg, cydgyfeiriad termau o wyddoniaeth gyfrifiadurol, ystadegau, mathemateg a pheirianneg meddalwedd. Yn ogystal, mae iaith gwyddor data yn esblygu'n gyflym iawn. Mae'r rhestr fer hon yn cynnwys rhai o'r allweddeiriau mwy cyffredin.

  • Peirianneg data
  • Cyfatebiaeth
  • Rhagfynegi / rhagolygon cyfres amser
  • Dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol
  • Casgliad Bayesaidd
  • Dadansoddi ymddygiad dynol
  • Dysgu dan oruchwyliaeth a heb oruchwyliaeth
  • Dysgu peiriant
  • Optimeiddio
  • Deallusrwydd artiffisial
  • Modelu
  • Cloddio / dadansoddi data
  • Delweddu data
  • Efelychu

Defnydd posib

Mae'r rhain yn achosion posibl o ddefnyddio gwyddoniaeth data ar gyfer trawsnewid busnes a gwydnwch:

Dadansoddi'r farchnad

  • Integreiddio dadansoddiad o'r farchnad â setiau data agored cyhoeddus a thrydydd parti (ee data meteorolegol, yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd, cyfrifiad ac ystadegau cenedlaethol) mewn perthynas â gweithgareddau cwmni, i gynorthwyo gwneud penderfyniadau, datblygu cynnyrch ac optimeiddio lleoliadau storfeydd ffisegol.
  • Cloddio data rhwydweithiau cymdeithasol ar gyfer dadansoddi ymddygiad defnyddwyr amser real a’r galw am gynnyrch
  • Optimeiddio llwybro ar gyfer gwasanaethau ar alw (trafnidiaeth gyhoeddus neu leoli beiciau hurio)
  • Dadansoddeg ragfynegol cyfres amser ar gyfer rhagweld gwerthiannau a chynhyrchu cyfleoedd (ee, sut mae'r tywydd yn effeithio ar nifer y bobl sy’n mynd i’r siopau)
  • Dadansoddi data delweddau lloeren a gofodol i bennu tueddiadau gwerthu lleol iawn, cyfleoedd gwerthu, mannau prysur a mannau ar y cyrion

Optimeiddio gwerthiant

  • Dylanwadu ar beiriannau argymell ar gyfer uwch-werthu a chroes-werthu cynnyrch
  • Optimeiddio prisiau deinamig (cymharu â chystadleuwyr, prisio yn y fan a’r lle, addasiadau tymhorol)
  • Personoli cwsmeriaid "dwfn" (ee, cynigion sy'n ymwybodol o'r cyd-destun yn seiliedig ar hanes chwilio a manwerthu blaenorol a thueddiadau grŵp, gwobrau teyrngarwch a chyfleoedd ail-dargedu)
  • Adnabod delwedd trwy ddysgu dwfn fel bod modd sicrhau gwell gallu i ddarganfod (e.e., chwilio gweledol a sain, tagio delweddau yn awtomatig)
  • Fframweithiau profi A / B a monitro micro-ymddygiad gwefan i wella profiad y cwsmer ac Optimeiddio Cyfradd Trosi (CRO)
  • Dadansoddi lleoliad ac amlygrwydd cynnyrch gan gynnwys effeithiau eurgylch cynnyrch
  • Dadansoddi graff cymdeithasol i bennu grwpiau tebyg, eiriolwyr a dylanwadwyr brand
  • Cymwysiadau realiti estynedig (AR) i droshaenu gwybodaeth mewn siopau ffisegol

Hysbysebu a marchnata

  • Datblygu cyfathrebiadau marchnata hynod bersonol
  • Defnyddio Prosesu Iaith Naturiol (NLP) ar gyfer hysbysebu sy'n ymwybodol o'r cyd-destun (e.e., y lleoliadau hysbysebu gorau posibl yn seiliedig ar y cynnwys o’u hamgylch)
  • Datblygu strategaeth hysbysebu gydlynol a gwerthuso perfformiad ar draws platfformau gwahanol (pob sianel)
  • Creu dangosfyrddau pwrpasol a delweddu data cwsmeriaid amser real
  • Adnabod delweddau ar gyfer masnach fideo (e.e., adnabod a thagio cynnyrch mewn cynnwys a gynhyrchir gan gwsmeriaid / cwmnïau)
  • Cynhyrchu cynnwys marchnata awtomataidd
  • Dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol i nodi’r gynulleidfa darged ac i bennu neges ac amseru negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol

Gwasanaethau a chefnogaeth

  • Dadansoddeg boddhad cwsmeriaid (e.e., dadansoddi sgwrs, teimlad cwsmeriaid ac adnabod emosiwn trwy NLP)
  • Ymatebion awtomataidd i adborth cwsmeriaid a thueddiadau cyfryngau cymdeithasol
  • Datblygu "botiau sgwrsio" deallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer ymateb llinell gyntaf a chefnogaeth hunanwasanaeth, a botiau sgwrsio “gwrando i mewn” ar gyfer ymateb â chymorth ac awgrymiadau gweithredu nesaf
  • Llwybro galwadau cymorth deallus (blaenoriaethu awtomataidd, asiant mwyaf galluog, paru personoliaeth)
  • Cymorth i gwsmeriaid gyda realiti estynedig mewn siopau ffisegol (e.e., cymorth ymwybodol o leoliad, troshaenau mapio/cynnig)

Gwella Cynnyrch

  • Dulliau uwch o ryngweithio a monitro gyda chynhyrchion digidol (ystumiau ac ymddygiad symud anghyson)
  • Optimeiddio peiriannau paru ac argymell (e.e., dyddio ar-lein)
  • Cloddio data i bennu tueddiadau fydd yn bwydo i ddatblygiad cynnyrch
  • Dadansoddi teimladau cwsmeriaid ar ôl addasu a diweddaru cynnyrch

Logisteg a gweithrediadau busnes

  • Galluogi technegau peirianneg data ar gyfer optimeiddio rhestr eiddo a chadwyn gyflenwi (e.e., rheoli gwybodaeth am gynnyrch, piblinellau mewn pryd)
  • Defnyddio technoleg Rhyngrwyd Pethau (IoT) i ragfynegi methiant cydran (cynnal a chadw rhagfynegol ac adferiad awtomatig)
  • Roboteg a “chobotiaid” ar gyfer awtomeiddio prosesau
  • Effeithiolrwydd systemau talu heb ariannwr (e.e. desg dalu hunan-wasanaeth, tagio eitemau RFID)

Prosesau busnes

  • Creu cynorthwywyr digidol ar gyfer dosrannu awtomatig a deall cyfeintiau mawr o ddogfennau (e.e., sicrhau cydymffurfiad rheoliadol)
  • Optimeiddio penodi (e.e., penderfynu ar yr ymgeisydd gorau ar sail  ddadansoddiad testun o wybodaeth am yr ymgeisydd)
  • Monitro cyfraddau cadw gweithwyr a’u cynhyrchiant, gan gynnwys priodoli craff a gwneud iawn yn seiliedig ar berfformiad gweithwyr
  • Cynorthwyo gyda chyfathrebu mewnol a phrosesau mewnol (amserlennu cyfarfodydd, blaenoriaethu e-bost, adrodd ar gostau a’u cymeradwyo, bilio)
  • Rheoli adeiladau ac ystadau (e.e. monitro ynni clyfar mewn swyddfeydd)
  • Dadansoddeg Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus (casglu data marchnata a dangosyddion perfformiad allweddol)

Rheoli data a warysau

  • Cysoni a phrosesu a darlunio ffynonellau data gwahanol ar raddfa fawr yn effeithlon (rhag-brosesu, glanhau, ETL, dilysu)
  • Creu piblinellau prosesu data i sbarduno gweithredoedd yng nghyswllt digwyddiadau cwsmeriaid
  • Trosoli cyfrifiadura cwmwl i raddfa'n gyflym yn ôl y galw
  • Labelu data i alluogi cymwysiadau dysgu peiriannol dan oruchwyliaeth

Diogelwch a thwyll

  • Synwyryddion symud i ganfod gweithgareddau anghyson (ee, monitro torf)
  • Canfod twyll mewn amser real
  • Dilysu delwedd a llais
  • Meddalwedd maleisus yn rhannu gwybodaeth ar draws seilwaith y cwmni

Rheoli risg

  • Dadansoddeg ragfynegol ar gyfer teilyngdod credyd cwsmer (e.e., cyfrifo pa mor debygol yw hi na fydd cwsmer yn talu isafswm taliad ei gerdyn credyd i fusnes)
  • Symleiddio prosesau casglu dyledion a thrafod anghydfodau