Ewch i’r prif gynnwys

Cross-Cutting Themes

Mae themâu trawsbynciol (neu lorweddol) yn faterion sy’n cyffwrdd ag egwyddorion cyffredinol megis democratiaeth, cydraddoldeb, llywodraethu da a chynaladwyedd.

Mae angen cymryd camau mewn sawl maes felly mae angen eu hintegreiddio ym mhob maes o’r rhaglenni Ariannu Ewropeaidd a mynd i’r afael â nhw yn y sgwrs ynghylch datblygiad y rhaglenni.

Nod y themâu yw gwella ansawdd a deilliant pob gweithgaredd sydd o dan nawdd y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru ac ychwanegu gwerth at raglenni yn eu cyfanrwydd. Byddan nhw’n sbarduno camau mewn amryw feysydd a byddan nhw’n rhan annatod o broses llunio a chynnal pob gweithgaredd. Mae tair thema o’r fath:

  • Cyfleoedd Cyfartal, Cymathu Rhywedd yn y Brif Ffrwd a Hybu’r Gymraeg
  • Datblygu Cynaliadwy
  • Trechu Tlodi ac Allgau Cymdeithasol.

Pecyn Cymorth rhag Newidiadau'r Dyfodol

Diben y pecyn yw helpu pob cwmni sy'n gofyn am gymorth trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i gyfrannu at Les Cenedlaethau'r Dyfodol ac elwa ar ymgorffori Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy, Cydraddoldeb ac Amrywioldeb a chymorth er lles y Gymraeg yn eu hamcanion yn unol â'r themâu trawsbynciol.

Trwy ddefnyddio'r pecyn, bydd cwmnïau'n pennu eu sefyllfa bresennol a, gyda chymorth dolenni ag adnoddau ac astudiaethau perthnasol, yn nodi cyfleoedd i ddatblygu a/neu wella eu busnes fel y bydd eu cadernid rhag newidiadau yn y dyfodol yn gryfach.

Ar ôl i gwmni bennu ei sefyllfa bresennol, bydd Ymgynghorwyr Effeithlonrwydd Adnoddau Materol a Dynol Busnes Cymru yn helpu eu cefnogi i wneud unrhyw welliannau neu newidiadau a nodwyd.

Os oes gennych ddiddordeb ynghylch creu cyfrif a defnyddio'r pecyn, mae'r wefan bellach ar waith Gwefan Busnes Cymru Llywodraeth Cymru: Defnyddiwch gôd 81436 pan ofynnir amdano ar dudalen fewngofnodi'r wefan er mwyn cael ei gysylltu â phrosiect Cyflymydd Arloesedd Data.

Gweithgareddau Cyflymydd Arloesedd Data

Ers sefydlu Cyflymydd Arloesedd Data, rydyn ni wedi gweithio'n ddyfal i ofalu bod y prosiect yn cydymffurfio â holl weithgareddau themâu trawsbynciol ac yn eu hyrwyddo. Dyma enghreifftiau o weithgareddau o'r fath:

  • penodi hyrwyddwr themâu trawsbynciol, Jordan Lloyd, i gydlynu gweithgareddau cysylltiedig.
  • cynnig holl ddeunydd hyrwyddo'r prosiect megis baneri, taflenni a chardiau busnes yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd.
  • cyhoeddi gwefan y prosiect yn y Gymraeg a'r Saesneg ac anfon negeseuon Twitter yn ddwyieithog yn rheolaidd.
  • bydd y prosiect yn hybu'n rheolaidd achlysuron sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy a rôl merched yn STEM megis Gwersyll Hyfforddi Gwyddoniaeth Data fis Mai 2019 ac Wythnos Ynni Cynaliadwy Undeb Ewrop fis Mehefin 2019.
  • mae'r prosiect yn gweithredu mewn swyddfa sy'n ceisio defnyddio cyn lleied o bapur ag y bo modd yn ogystal â gofalu bod offer trydan wedi'u diffodd pan nad ydyn nhw ar waith a bod staff yn rhoi gwastraff i'w ailgylchu yn y biniau priodol.
  • mae'r DIA yn cyfeirio pob cwmni y mae'n cydweithio â nhw i'r pecyn cymorth ar gyfer y dyfodol ac yn eu hannog i gyfrannu at les cenedlaethau'r dyfodol.