Ewch i’r prif gynnwys

Manteision i chi

Rydym ni’n bodoli er mwyn cefnogi cwmnïau ac i ddangos iddynt cymaint yw grym eu data.

Bydd cydweithio â ni yn eich cefnogi i fynd i’r afael â her benodol yn eich busnes, ac yn cynnig mewnwelediadau newydd i chi o ran beth all gwyddor data ei wneud i chi yn y dyfodol.

Mae pob cwmni yn unigryw, ond mae nifer o bethau yr ydym ni’n gobeithio y bydd pob cwmni yn elwa ohonynt:

  • mynediad at arbenigedd gwyddor data i’ch helpu i gynyddu pa mor gynhyrchiol a chystadleuol ydych chi yn y farchnad
  • deall gwerth gweithio gyda gwyddonydd data
  • dod yn rhan o gymuned ddata
  • chwarae rôl yn rhwydwaith technoleg De Cymru, sy’n ffynnu
  • meithrin perthynas â phrif Brifysgol Cymru
  • dysgu rhagor am gyfleoedd Prifysgol Caerdydd ar gyfer busnesau

Cysylltwch â ni

Cofiwch gysylltu i gael rhagor o wybodaeth, neu i ddechrau sgwrs am gydweithio posibl: