Archwilio ynysoedd llosgfynyddol o dan ddeheubarth Cefnfor Iwerydd trwy dyllu
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae cyfres gweminarau GeoTalks yn addas i sawl cynulleidfa megis y cyhoedd, disgyblion yr ysgolion uwchradd a phroffesiynolion.
Seminar
Rhwng 6ed Rhagfyr 2021 a 5ed Chwefror 2022, bydd llong ymchwil JOIDES Resolution yn teithio ar hyd Crib y Morfil, cadwyn o losgfynyddoedd tanfor sy’n ymestyn o ddeheubarth Affrica i ganol Môr Iwerydd. Bydd tîm rhyngwladol o wyddonwyr y ddaear yn turio trwy rai o’r llosgfynyddoedd hynny i edrych ar eu gwreiddiau a deall sut maen nhw’n ymwneud â symud wyneb y Ddaear a ffurfio Môr Iwerydd. Yn y ddarlith hon, bydd David Buchs yn sôn am ei brofiad yn aelod o’r tîm hwnnw yn ddiweddar ac yn trafod canfyddiadau am losgfynyddoedd Crib y Morfil, sydd heb eu deall yn drylwyr hyd yma.
Siaradwr
Dr David Buchs