Ewch i’r prif gynnwys

Cyfle i weld y Goron a noddir gan y Brifysgol

7 Mehefin 2018

Eisteddfod crown

Cyn bo hir, gall y rhai sy’n ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd weld y goron drawiadol sydd wedi’i chreu ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol eleni. Noddir y Goron gan Brifysgol Caerdydd.

Cafodd y Goron, a gyflwynir i enillydd un o brif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod, ei dylunio a'i chreu gan y gemydd cyfoes Laura Thomas.

Dewiswyd Laura, o Gastell-nedd, yn dilyn cystadleuaeth gan y Brifysgol.

Mae wedi treulio cannoedd o oriau’n creu’r Goron, sy’n nodweddu ei thechneg neilltuol o fewnosod argaenau pren mewn arian pur.

Bydd modd gweld y Goron mewn arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng dydd Mawrth 12 Mehefin a dydd Iau 2 Awst (mae’r Amgueddfa ar agor ddydd Mawrth i ddydd Gwener rhwng 10:00 a 17:00).

Dywedodd Laura y cafodd ei hysbrydoli gan ddeunyddiau arloesol megis graphene a phaneli solar. Gweithiodd gyda'r Ysgol Cemeg i archwilio onglau a phatrymau drwy ddefnyddio dros 600 darn o argaenau pren.

Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys Cadair yr Eisteddfod, a noddir gan Amgueddfa Cymru eleni, ac fe'i chyflwynir i enillydd y brif gystadleuaeth lenyddol arall.

Bydd y rhai sy’n ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cael rhagor o wybodaeth am sut y cafodd y Goron a'r Gadair eu dylunio a'u gwneud.

Mae Coron a Chadair newydd yn cael eu creu ar gyfer pob Eisteddfod Genedlaethol, ond nid ydynt yn cael eu dyfarnu os nad yw’r beirniaid yn meddwl bod y ceisiadau llenyddol yn deilwng o’r wobr.

Cyflwynodd Prifysgol Caerdydd y Goron yn swyddogol i'r Eisteddfod Genedlaethol mewn digwyddiad ym mhresenoldeb yr Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan yn Adeilad Hadyn Ellis ar 6 Mehefin.

Dywedodd Laura wrth y gynulleidfa bod gallu creu Coron yr Eisteddfod wedi bod yn fraint.

Darllenodd Osian Jones, cynhyrchydd y we yn y Brifysgol, a enillodd Gadair yr Eisteddfod y llynedd, gerdd a ysgrifennodd yn arbennig ar gyfer y seremoni gyflwyno.

Siaradodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, â’r gynulleidfa a wahoddwyd am yr adegau y mae Caerdydd wedi cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol.

https://youtu.be/PPHPzE82GJs

Rhannu’r stori hon

Dysgwch ragor am beth sy'n digwydd yn yr Eisteddfod.